Amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed

Mae oedolyn sy'n agored i niwed yn unigolyn dros 18 oed y mae angen, neu y gallai fod angen gwasanaethau gofal cymunedol arno am resymau yn ymwneud ag iechyd meddwl neu anabledd arall, oedran neu salwch.

Mae'n bosibl na fydd oedolyn sy'n agored i niwed yn gallu gofalu amdano'i hun neu amddiffyn ei hun rhag niwed sylweddol neu gamfanteisio difrifol.

Gallai oedolyn sy'n agored i niwed fod yn unigolyn:

  • Sydd ag anabledd corfforol neu synhwyraidd
  • Sy'n fregus yn gorfforol neu sydd â salwch cronig
  • Sydd â salwch meddwl neu ddementia
  • Sydd ag anabledd dysgu
  • Sy'n hen ac yn fregus
  • Sy'n camddefnyddio cyffuriau a/neu alcohol
  • Sydd â phroblemau cymdeithasol neu emosiynol
  • Sy'n arddangos ymddygiad heriol

Bydd yr hyn sy'n gwneud unigolyn yn agored i niwed yn dibynnu ar ei amgylchiadau a'i amgylchedd, ac mae'n rhaid ystyried pob achos yn unigol.

Beth yw cam-drin oedolion?

Camdriniaeth yw pan fydd unrhyw unigolyn neu unigolion yn torri ar hawliau dynol a sifil unigolyn arall. Gall y gamdriniaeth amrywio o drin rhywun yn amharchus mewn ffordd sy'n effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd yr unigolyn, i achosi dioddefaint corfforol gwirioneddol.

Gall camdriniaeth ddigwydd yn unrhyw le - gartref, mewn cartref preswyl neu nyrsio, mewn ysbyty, yn y gweithle, mewn canolfan ddydd neu sefydliad addysgol, mewn tai â chymorth neu ar y stryd.

Mae mathau o gamdriniaeth yn cynnwys:

  • Camdriniaeth gorfforol - taro, gwthio, pinsio, ysgwyd, camddefnyddio meddyginiaeth, sgaldio, ataliad corfforol, tynnu gwallt.
  • Camdriniaeth rywiol - trais, ymosodiad rhywiol, neu weithredoedd rhywiol nad yw'r oedolyn sy'n agored i niwed wedi cydsynio iddynt, neu na allai fod wedi cydsynio iddynt, neu y rhoddwyd pwysau arno i gydsynio iddynt.
  • Camdriniaeth seicolegol neu emosiynol - bygythiadau o niwed neu adael, amddifadu'r unigolyn o gysylltiad cymdeithasol neu unrhyw fath arall o gysylltiad, bychanu, beio, rheoli, dychryn, gorfodi, aflonyddu, cam-drin geiriol, atal yr unigolyn rhag derbyn gwasanaethau neu gymorth.
  • Camdriniaeth ariannol neu faterol - dwyn, twyll neu gamfanteisio, pwysau mewn cysylltiad ag ewyllys ac etifeddiaeth, camddefnyddio eiddo, meddiannau neu fudd-daliadau.
  • Esgeulustod - fel anwybyddu anghenion gofal meddygol neu gorfforol ac atal yr unigolyn rhag cael at wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu addysgol, neu ymatal rhag rhoi angenrheidiau bywyd fel bwyd, diod a gwres.
  • Camdriniaeth wahaniaethol - ar sail hil neu rywioldeb neu anabledd unigolyn a mathau eraill o aflonyddu neu ddifrïo.
  • Camdriniaeth sefydliadol - mae hyn yn digwydd weithiau mewn cartrefi preswyl, cartrefi nyrsio neu ysbytai pan fydd pobl yn cael eu cam-drin oherwydd gofal gwael neu annigonol, esgeulustod ac arferion gwael sy'n effeithio ar y gwasanaeth cyfan.

Gall unrhyw un o'r mathau hyn o gamdriniaeth fod yn fwriadol neu ddigwydd o ganlyniad i anwybodaeth neu ddiffyg hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth, Yn aml, os yw unigolyn yn cael ei gam-drin mewn un ffordd, bydd yn cael ei gam-drin mewn ffyrdd eraill hefyd. 

Os ydych chi'n amau bod oedolyn sy'n agored i niwed yn cael ei gam-drin, cysylltwch â'r Uned Ddiogelu ar 01495 762200.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Uned Ddiogelu

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig