Plant sy'n Derbyn Gofal

Cyflwynwyd y term 'derbyn gofal' gan y Ddeddf Plant ym 1989 ac mae'n golygu bod plentyn yn gyfrifoldeb i'r cyngor lleol. Yn aml, caiff plant sy'n derbyn gofal eu disgrifio fel bod 'mewn gofal’. 

Mae plentyn yn dod i dderbyn gofal am lawer o wahanol resymau. Bydd llawer wedi'u heffeithio gan brofiadau trallodus a niweidiol, gan gynnwys camdriniaeth gorfforol a rhywiol ac esgeulustod. 

Gallai rhai fod mewn gofal oherwydd salwch neu farwolaeth rhiant. Mae'n bosibl y bydd gan eraill anableddau ac anghenion cymhleth. Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc sydd mewn gofal yn dod o deuluoedd sy'n profi caledi ac sy'n cael eu gwahanu oddi wrthynt oherwydd nad oedd eu teulu'n gallu darparu gofal digonol. 

Rydym yn ceisio dod o hyd i le addas i blant sy'n derbyn gofal o fewn eu teulu ehangach pryd bynnag y bo'n bosibl. Os nad yw hyn yn bosibl, rydym yn ceisio dod o hyd i gartref maeth a fydd yn bodloni anghenion y plentyn. 

Lle bynnag y bo'n bosibl, rydym yn ceisio lleoli'r plentyn mor agos i Dorfaen â phosibl. Fodd bynnag, ein blaenoriaeth yw bod y lleoliad yn bodloni anghenion y plentyn. 

Mae gan bob person ifanc sydd mewn gofal ei weithiwr cymdeithasol ei hun a bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth â'r rhieni lle bynnag y bo'n bosibl. 

Mae llawer o blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yn cynnal cysylltiadau cryf â'u teuluoedd ac mae llawer yn dychwelyd i fyw gartref yn y pen draw.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Lleoli gyda Theuluoedd

Ffôn: 01495 762200 

E-bost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig