Lluosi
Mae Lluosi yn rhaglen newydd a ariennir gan Lywodraeth y DU i helpu oedolion i wella eu sgiliau rhifedd.
Gallai gwella sgiliau rhifedd unigolyn ei helpu i gyflawni nifer o nodau sy'n amrywio o:
- Fwy o hyder i reoli cyllideb a gofalu am arian
- Gwella hyder i ddefnyddio rhifau mewn bywyd bob dydd
- Helpu gyda gwaith cartref eich plentyn
- Deall ryseitiau a gwneud i’r bwyd yr ydych yn ei brynu, i fynd ymhellach
- Cael mynediad i gyfleoedd gwaith newydd neu addysg bellach
I bwy mae’r rhaglen?
Mae ein cyrsiau Lluosi am ddim i unrhyw un dros 19 oed sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Torfaen, nad oes ganddynt TGAU gradd C neu gyfwerth mewn Mathemateg.
Os ydych chi'n awyddus i roi hwb i’ch hyder mewn rhifedd, yn eich cartref neu yn y gwaith, mae Tîm Lluosi Torfaen yma i helpu.
Ariennir y prosiect drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Multiply expression of interest form
Diwygiwyd Diwethaf: 21/02/2024
Nôl i’r Brig