Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu

Profion Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu CITB (CSCS)

Mae Canolfan Addysg Gymunedol Pont-y-pŵl yn gallu cynnig profion Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu CITB, sy’n cael ei gydnabod yn eang fel y safon ar gyfer profi cymhwysedd galwedigaethol yn y Diwydiant Adeiladu. 

Trwy lwyddo i gwblhau prawf cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu, mae crefftwyr yn gallu sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i wneud eu gwaith yn effeithiol ac yn ddiogel ar safleoedd adeiladu.

Mae’r dilysiad hwn yn elfen hanfodol i unrhyw un sydd am weithio yn y diwydiant adeiladu.

Mae opsiynau cyllido ar gael i unigolion cymwys trwy brosiect CELT +.

Mae yna dri math o brawf CITB ac Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:

  • Gweithredwyr - profir ar gyfer lefel sylfaenol o ymwybyddiaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol. Mae angen y prawf hwn wrth geisio am y cerdyn Labrwr, y cerdyn Hyfforddai, y cerdyn Prentis, y rhan fwyaf o gardiau Glas i Weithwyr Medrus a’r rhan fwyaf o gardiau Crefft Uwch Aur.
  • Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol (MAP) - profir am bopeth yn y prawf i weithredwyr, a deunydd ychwanegol sy’n berthnasol i reolwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae angen y prawf hwn wrth geisio am y cerdyn Du i Reolwyr a’r cerdyn i bobl â Chymwysterau Academaidd neu Broffesiynol. Diweddarwyd y prawf MAP ym mis Mehefin 2023 i sicrhau ei fod yn addas i reolwyr a gweithwyr proffesiynol heddiw, gan ystyried y newidiadau mewn deddfwriaeth, arferion gweithio, technoleg newydd ac anghenion y diwydiant.
  • Arbenigwyr - profir am bopeth yn y prawf i weithredwyr, a deunydd ychwanegol yn ymwneud â meysydd arbenigol fel goruchwylio neu weithio ar uchder. Mae gofyn gwneud profion arbenigol wrth geisio am y cerdyn Aur i Oruchwylwyr, yn ogystal â’r cerdyn Glas i Weithwyr Medrus neu’r cerdyn Crefft Uwch Aur mewn galwedigaethau penodol.

I fynegi diddordeb ym mhrofion cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu neu i holi  ymhellach, gallwch gysylltu â thîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen dros y ffôn ar 01633 647647 neu anfon neges e-bost i course.enq@torfaen.gov.uk.

Dyfarniad Lefel 1 Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu

Mae’r cymhwyster hwn yn addas i bawb sydd eisiau gweithio mewn galwedigaethau labro yn y diwydiant adeiladu ac sy’n dymuno cael eu Cerdyn Gwyrdd Labrwr.

Bydd llwyddo i ennill y cymhwyster hwn yn dangos gwybodaeth unigolion am ofynion iechyd a diogelwch safle adeiladu, a’u dealltwriaeth ohonynt a, wedi pasio Prawf Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd i Weithredwyr CITB*, bydd yn galluogi unigolion i gael Cerdyn Gwyrdd Labrwr y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS).

Cam 1: Cwblhewch yr hyfforddiant ar-lein, y profion cynnydd a’r asesiadau ymarfer.

Cam 2: Trefnwch eich bod yn sefyll y prawf amlddewis ar bapur, sydd ar gael mewn canolfan brofi leol, a chwblhewch y prawf.

*Ar gael yn ein canolfan brofi ym Mhont-y-pŵl, Torfaen.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01633 647647 neu anfonwch neges e-bost i course.enq@torfaen.gov.uk

Archebion ac ymholiadau

Gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned y cyngor sy’n rhedeg y ganolfan ac mae’r llinell bwcio ar agor bob dydd Llun i ddydd Iau, o 8:30am hyd 9:15pm a bob dydd Gwener o 8:30am hyd 4pm.

Yn ystod gwyliau ysgol, bydd modd bwcio rhwng 8.30am a 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Iau.

Cyfeiriad canolfan brawf y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu:

Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen
Canolfan Addysg Gymunedol Pont-y-pŵl
Trosnant Road
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 8AT

Diwygiwyd Diwethaf: 08/12/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Dysgu Oedolion a'r Gymuned

Ffôn: 01633 647647

E-bost: course.enq@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig