Gwybodaeth i Ddysgwyr

Sut i gofrestru

Gallwch gofrestru ar gwrs trwy ffonio ble fydd ein tîm yn hapus i roi gwybodaeth bellach i chi a’ch helpu i gofrestru.

Ein oriau agor yn ystod y tymor yw Dydd Llun i Ddydd Iau 8.30yb nes 9.15yh a Dydd Gwener 8.30yb nes 4,00yp. Ein oriau agor yn ystod gwyliau’r ysgol yw Dydd Llun i Ddydd Iau 08.30yb nes 4,30yp a Dydd Gwener 08.30yb nes 4,00yp.

Esbonio Taliadau

Pan fydd tâl, yna er mwyn sicrhau lle ar eich cwrs, bydd angen i chi dalu lleiafswm o 50% o gost y cwrs. Gellir talu’r gweddill ar unrhyw adeg cyn dechrau’r cwrs, ond nid yn hwyrach na 4 wythnos ar ôl y dyddiad cychwyn. Rhoddir lleoedd ar y cwrs ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu.

NODWCH: Rhaid talu’n llawn ar adeg cofrestru am gyrsiau sy’n 8 wythnos neu lai.

Sut I Dalu

Gallwch dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn.

Efallai bydd ein prosiectau a ariennir gan Ewrop yn gallu rhoi cymorth gyda’ch costau dysgu a chyda ffioedd a thaliadau. Ffoniwch 01633 647743 am fwy o wybodaeth.

Hygrchedd

Mae ein canolfannau’n gwbl hygyrch.

Er mwyn sicrhau bod eich ymweliad yn mynd yn dda, cysylltwch â ni cyn i chi ymweld ag fe wnawn ni bob peth i’ch cefnogi chi gyda’ch dysgu.

Yr Iaith Gymraeg

Mae cyrsiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Nodwch eich dewis pan fyddwch yn cofrestru.

Ffioedd Ychwanegol

Mae ffioedd aelodaeth defnyddwyr y ganolfan yn berthnasol i gwrs o ddau sesiwn neu fwy.

Cansol ac Addaliadau

Mae Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen yn cadw’r hawl i ganslo a newid cyrsiau. Mewn achosion o’r fath, rhoddir ad-daliad llawn neu gymesur.

Ni fydd dosbarthiadau nad ydynt yn cyrraedd y nifer angenrheidiol o ddysgwyr yn dechrau.

Unwaith y bydd dysgwr wedi cofrestru ar gwrs, bydd yn gyfrifol am yr holl gostau.

Ni roddir ad-daliadau oni bai bod y cwrs yn cael ei ganslo.

Ymwadiad

Mae Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a chyrsiau yn y canllaw hwn. Serch hynny nid yw hyn yn gwarantu darparu’r gwasanaethau hynny.

Mae darparu’r cyrsiau’n dibynnu ar fod yna ddigon o alw.

Mae'r wybodaeth a ddarperir yn y pamffled hwn ac ar ein gwefan, hyd eithaf ein gwybodaeth, yn gywir ar yr adeg y cafodd ei chyhoeddi.

Ni dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb am gamgymeriadau neu hepgoriadau ac rydym yn cadw’r hawl i newid, diwygio neu ddileu cyrsiau a restrir heb rybudd.

Os bydd angen i ganolfannau gau yn y dyfodol, lle bo modd bydd cyrsiau yn parhau arlein.

I gymryd rhan mewn dosbarthiadau ar-lein bydd angen cysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd, cyfrifiadur/gliniadur/tabled/ffôn symudol gyda’r porwr diweddaraf.  Bydd angen meicroffon ar y ddyfais ac, os yw’n bosibl, camera. Siaradwch â ni os oes angen help a chefnogaeth arnoch chi i fynd ar-lein, 01633 647647.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/06/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Dysgu Oedolion a'r Gymuned

Ffôn: 01633 647647

Nôl i’r Brig