O Bartneriaeth Sifil i Briodas

Gall cyplau sydd wedi bod trwy Seremoni Partneriaeth Sifil yn awr ei drosi i briodas.

Mae dwy ffordd o wneud hyn.

Trosiad Safonol

Mae’r ffordd gyntaf yn broses gweinyddol syml o’r enw Trosiad Safonol - dyma le mae’r ddau ohonoch yn bresennol mewn unrhyw swyddfa gofrestru ac yn cwblhau datganiad gyda’ch manylion chi a'ch Partner Sifil

Bydd angen y dogfennau canlynol arnoch ar gyfer hwn:

  • Eich tystysgrif partneriaeth sifil
  • Tystiolaeth gan y ddau ohonoch i brofi pwy ydych e.e. Pasbort DU/Trwydded Gyrru gyda llun
  • Tystiolaeth o’ch cyfeiriad yn un o’r dulliau canlynol:
    • Bil cyfleustod yn dyddio o fewn tri mis i'ch apwyntiad, neu
    • Ddatganiad banc neu gymdeithas adeiladu yn dyddio o fewn un mis i'ch penodiad, neu
    • Fil treth gyngor yn dyddio o fewn blwyddyn eich apwyntiad, neu
    • Trwydded yrru ddilys y DU

Bydd datganiad cyfreithiol yn cael ei lunio i chi ei arwyddo ym mhresenoldeb y Cofrestrydd Arolygol. Os hoffech, gallwch ddewis i ddatgan geiriau’r datganiad yn uchel i’ch gilydd cyn arwyddo’r ddogfen. Yna byddwch yn briod yn gyfreithiol a bydd tystysgrif priodas yn cael ei gyhoeddi.

Seremoni yn dilyn Trosiad

Mae dau gam i’r broses yma, paratoi’r datganiad yn y swyddfa gofrestru ac arwyddo’r datganiad mewn lleoliad gwahanol neu ar amser gwahanol.

Yn gyntaf bydd rhaid i’r ddau ohonoch fynychu unrhyw swyddfa gofrestru a chwblhau datganiad gyda’ch manylion chi a’ch partner sifil. Byddai’n rhaid darparu’r dogfennau gofynnol a restrir uchod yn ystod yr apwyntiad hwn h.y. tystysgrif partneriaeth sifil, tystiolaeth o bwy ydych a thystiolaeth o’ch cyfeiriad.  

Ail gam y proses hwn yw arwyddo’r datganiad, â’r seremoni yn dilyn. Gall hyn ddigwydd yn unrhyw leoliad lle mae cyplau un rhyw yn gallu priodi.  

Gellir cynllunio’r seremoni at eich anghenion a bydd ffioedd yn berthnasol.

Cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru ar gyfer ffioedd Trosi Partneriaeth Sifil.

Os hoffech archebu seremoni neu os hoffech unrhyw arweiniad pellach, cysylltwch â'r swyddfa ar 01495 742132 neu e-bostiwch: registrars@torfaen.gov.uk lle bydd y staff yn hapus i helpu.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Registrars

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig