Seremonïau Priodas a Phartneriaeth Sifil yn Nhorfaen

Cream rose

Diolch i chi am ystyried Torfaen fel lleoliad i gynnal eich Seremoni.

P'un a ydych am gael seremoni anffurfiol fer gydag ond ychydig o westeion, neu un fwy ffurfiol gyda llawer o westeion, bydd ein tîm ymroddedig o Gofrestryddion yma yn Nhorfaen yn hapus i gynnig awgrymiadau ar sut i wneud eich seremoni yn un gofiadwy, wedi'i theilwra yn ôl eich anghenion unigol.

Er bod rhai addunedau cyfreithiol y mae'n rhaid i chi eu dweud yn ystod y seremoni, mae gennym ddewis  y gallwch eu datgan, os hoffech eu hychwanegu at eich addunedau, neu efallai y byddai'n well gennych ysgrifennu eich geiriau arbennig ac ystyrlon y naill i'r llall. Pa un bynnag fydd eich penderfyniad, bydd ein tîm cyfeillgar profiadol yn eich helpu i gynllunio'ch seremoni berffaith.

Beth sy’n digwydd ar y dydd?

Ar ddiwrnod y seremoni dylid gofyn i westeion gyrraedd y lleoliad tua 30 munud cyn amser cychwyn y seremoni. Byddwch yn brydlon os gwelwch yn dda am fod gan gofrestryddion, yn aml iawn, seremonïau eraill y mae'n rhaid iddynt eu mynychu ar y diwrnod.

Bydd y cofrestrydd yn cwrdd â'r ddau ohonoch i wirio'r manylion sydd i'w nodi ar y cofnod cyfreithiol.

Mae'r manylion hyn yn cynnwys:

  • Eich enw, cyfeiriad, galwedigaeth a’ch oedran ar y pryd.
  • Enw a galwedigaeth eich rhiant/rhieni
  • Enwau’r tystion

Fe'ch gwelir ar wahân pan fyddwch yn rhoi'r wybodaeth hon. Sicrhewch fod y wybodaeth yr ydych yn ei rhoi, yn gywir, oherwydd gall arwain at ffi o hyd at £90 i’w newid yn ddiweddarach.

Yna bydd gwesteion yn eistedd yn yr ystafell seremoni. Gallwch naill ai fynd i mewn i'r ystafell gyda'ch gilydd fel cwpl neu ar wahân drwy dywyswr.

Yn ystod y seremoni rhoddir cyflwyniad byr gan y cofrestrydd arolygol. Yna caiff datganiadau ac addunedau eu cyfnewid, gyda'ch gilydd (os dymunwch) wrth rhoi a derbyn modrwyau. Ar ôl i'r seremoni ddod i ben, gofynnir i'r ddau ohonoch wirio a llofnodi'r cofnod cyfreithiol

Seremoni sy’n bersonol i Chi

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch sicrhau bod y seremoni yn bersonol i chi. Mae'r rhain yn cynnwys:

Darlleniadau ac Addunedau

Gallwch ategu at eich Seremoni trwy gynnwys darlleniadau neu farddoniaeth. Gallwch chi, neu un o'ch gwesteion eu darllen. Mae gennym ddetholiad o farddoniaeth a darlleniadau yn y swyddfa gofrestru, a gallwch eu defnyddio pe dymunwch, neu fel arall, gallwch ychwanegu eich dewis personol, o natur anghrefyddol.

Cerddoriaeth

Yn y Seremoni gallwch ymgorffori hyd at dri darn o gerddoriaeth. Darn wrth fynd i mewn i'r ystafell, ail ddarn wrth i chi lofnodi'r Gofrestr a'r trydydd darn i adael yr ystafell. Fel arall, gellir chwarae'r un darn o gerddoriaeth drwyddo draw. Gan mai seremoni sifil yw hon, rhaid i hon fod o natur anghrefyddol.

Ffotograffiaeth

Eich seremoni yw un o ddiwrnodau pwysicaf eich bywyd. Mae staff yn y swyddfa Gofrestru wedi arfer gweithio'n agos gyda ffotograffwyr i ddal yr eiliadau gwerthfawr sy'n rhan o'ch diwrnod arbennig.

Bydd digon o gyfleoedd trwy gydol y seremoni i dynnu lluniau, ac ar ôl llofnodi'r ffurflen yn swyddogol sefydlir cyfle i chi ffug lofnodi, ar gyfer eich ffotograffau holl bwysig.

Os hoffech archebu seremoni neu os oes angen unrhyw arweiniad pellach arnoch, cysylltwch â'r swyddfa ar 01495 742132 neu e-bostiwch: registrars@torfaen.gov.uk lle bydd y staff yn hapus i’ch helpu.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/08/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Registrars

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig