Trefnu Seremoni Priodas Sifil

Mae priodas sifil yn seremoni gwbl seciwlar (anghrefyddol). Gall ddigwydd mewn swyddfa gofrestru neu leoliad sydd wedi ei drwyddedu i gynnal Seremonïau Sifil. Ni all y seremoni gael unrhyw gynnwys crefyddol, ond gall rhai cyffyrddiadau unigol gael eu hychwanegu megis cerddoriaeth a darlleniadau anghrefyddol.

Pwy all briodi?

Gallwch chi a'ch partner briodi cyn belled â bod yr holl amgylchiadau canlynol yn berthnasol:

  • Rydych chi dros 18
  • Nid ydych yn briod neu mewn Partneriaeth Sifil eisoes
  • Nid ydych yn perthyn yn agos trwy waed neu briodas

Penderfynwch ble fydd eich Seremoni Priodas yn digwydd

Mae nifer o adeiladau sydd wedi cofrestru ar gyfer Priodas yn Nhorfaen. Mae’r Swyddfa Gofrestru yn adeilad Fictoraidd mawr a leolir yng nghanol Pont-y-pŵl, sydd â thair ystafell drwyddedig ar gyfer seremonïau. Rydym yn darparu seremoni ffurfiol ond hamddenol sy’n darparu ar gyfer eich anghenion unigol. Mae'r ffi yn cynnwys defnydd o'r ystafell, yn ogystal â phresenoldeb y cofrestrydd.

Fel arall, gallwch ddewis o blith y lleoliadau trwyddedig o fewn ein hardal sydd wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer Seremonïau Sifil. Bydd angen talu ffi ar gyfer presenoldeb y swyddog cofrestru ar y diwrnod, bydd hyn yn ychwanegol at unrhyw ffioedd y bydd y lleoliad yn codi am logi'r ystafell drwyddedig.

Penderfynu ymhle y bydd eich Seremoni Briodas yn cael ei chynnal

Yng Nghymru a Lloegr, gellir cynnal Priodas Sifil neu Bartneriaeth Sifil mewn swyddfa gofrestru neu mewn adeilad a gymeradwywyd ar gyfer Priodasau Sifil a Phartneriaethau Sifil.

Mae nifer o adeiladau trwyddedig i gynnal priodas yn Nhorfaen.

Mae Swyddfa Gofrestru Torfaen wedi'i leoli yn 'neuadd y dref.' Adeilad mawr o gyfnod Victoria yng nghanol canol tref Pont-y-pŵl. Mae nifer o ystafelloedd wedi'u trwyddedu ar gyfer priodas yn yr adeilad.

  • Ystafell Hanbury: Ystafell fawr, seremonïol sydd yn dal hyd at 50 o westeion
  • Ystafell y Parc: Ystafell seremonïol, fach a chlos, sydd yn cynnig lle i hyd at 10 o westeion i eistedd 
  • Y Swyddfa Gofrestru: Ar gael i’r cwpwl a dau dyst (Llun – Iau yn unig)

Mae buarth wrth ochr yr adeilad ar gael i dynnu lluniau. Fel arall, mae Gerddi Eidalaidd Parc Pont-y-pŵl gyferbyn, ac yn darparu'r lleoliad perffaith fel cofnod o'ch diwrnod arbennig.

Gweld lluniau o’r man gwasanaeth a’r ystafelloedd seremoni sydd ar gael

Mae’r ffioedd cofrestru yn cynnwys defnyddio’r ystafell yn ogystal â phresenoldeb cofrestrydd.

Fel arall, fe allwch ddewis o un o’n lleoliadau eraill yn y fwrdeistref sydd wedi eu trwyddedu i gynnal priodasau:

Bydd angen talu ffi am bresenoldeb y cofrestryddion ar y diwrnod a bydd hyn yn ychwanegol at unrhyw ffioedd y bydd y lleoliad yn eu codi am logi'r ystafell drwyddedig.

Penderfynu pryd y bydd eich seremoni briodas yn cael ei chynnal

Bydd angen swyddog cofrestru i fynychu eich seremoni ar y diwrnod, ond cyntaf i'r felin yw hi, felly archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

Mae angen rhoi rhybudd. Gallwch wneud hyn hyd at flwyddyn cyn y dyddiad hwnnw.

Sut byddwch chi’n medru cael Tystysgrif Briodas (ar ôl eich Seremoni)

Ar ôl i'ch manylion gael eu nodi ar y gofrestr briodas electronig, a hynny'n unig, y gellir cyhoeddi Tystysgrif Priodas. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu cael Tystysgrif Priodas ar ddiwrnod eich priodas. Bydd eich manylion yn cael eu nodi ar y gofrestr gofrestru electronig cyn pen 7 diwrnod ar ôl i chi lofnodi'ch Ffurflen Briodas.

Ar ôl yr amser hwn, os oes angen Tystysgrif arnoch, bydd angen i chi gysylltu â Chofrestryddion Torfaen ar 01495 742132, i wneud cais am eich Tystysgrif Priodas a'i harchebu. Y gost yw £11.00 y copi a gellir cymryd taliad cerdyn debyd neu gredyd ar yr adeg hon.

Seremoni Awyr Agored mewn lleoliad cymeradwy

Mae'n bosibl cynnal y seremoni gyfreithiol gyfan yn cynnwys llofnodi'r gofrestr, yn yr awyr agored mewn lleoliad a gymeradwywyd. Bydd angen i chi gadarnhau bod eich lleoliad yn cynnig seremonïau awyr agored cyfreithlon a bod y lleoliad awyr agored wedi’i gymeradwyo gan y gwasanaeth cofrestru

Os hoffech drafod seremoni awyr agored, cysylltwch â ni ar 01495 742132 am gymorth.

Trefnu seremoni priodas mewn amgylchiadau anodd

Os oes rhaid i’ch seremoni gael ei gynnal mewn lleoliad sydd heb ei thrwyddedu ar gyfer seremonïau sifil, neu os yw eich amgylchiadau'n golygu y byddai angen i chi gynnal eich seremoni yn gyflym iawn, efallai gallwn eich helpu gyda hyn. Cysylltwch â'r swyddfa am arweiniad a chyngor ar eich amgylchiadau unigol. Os oes angen cymorth arnoch y tu allan i oriau swyddfa arferol, yna ffoniwch Wasanaeth Tu Allan i Oriau Torfaen ar 01495 762200, a byddant yn trefnu i aelod o'r Tîm Cofrestru gysylltu â chi yn uniongyrchol.

Os hoffech archebu seremoni neu os oes angen unrhyw arweiniad pellach, cysylltwch â'r swyddfa ar 01495 742132 neu e-bostiwch: registrars@torfaen.gov.uk lle bydd y staff yn hapus i help.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestryddion

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig