Blog - Harneisio pwerau natur

Veronika Brannovic

Gellir gweld effeithiau newid yn yr hinsawdd eisoes yn ein hamgylchedd. Ond gan natur mae’r atebion hefyd, fel y mae’r Cydgysylltydd Partneriaeth Natur Leol Veronika Brannovic yn ei esbonio yn y diweddaraf o’n blogiau argyfwng hinsawdd.

Er bod ansicrwydd o ran sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn ein heffeithio ni yn lleol, mae’n debygol y byddwn yn gweld tywydd mwy eithafol.

Mae cynnydd mewn tymheredd ar gyfartaledd eisoes wedi cael effaith ar fywyd gwyllt lleol. Mae gennym nawr nifer o rywogaethau newydd yn y DU, na fyddent yn y gorffennol wedi goroesi ein gaeafau oerach.  

Mae hyn yn cael effaith niweidiol ar rywogaethau brodorol. Er enghraifft, yn Nhorfaen mae Llysiau’r Dial a’r Ffromlys Chwarennog yn lledaenu a chysgodi planhigion brodorol eraill.

Felly, beth allwn ei wneud i liniaru’r effeithiau hyn? Mewn llawer o achosion, mae natur yn darparu’r ateb a, gydag ychydig o help gennym ni, gall leihau effeithiau negyddol newid yn yr hinsawdd.  

Gadael i’r gwair dyfu 

Mae Cyngor Torfaen yn adolygu sut mae’n rheoli glaswelltiroedd, gan gynnwys dolydd, caeau chwarae ac ymylon ffordd.  

Mae cadw gwair yn fyr yn lleihau ei allu i gynnal gwlybaniaeth yn ystod cyfnodau o sychder ac i amsugno dŵr pan mae’n bwrw glaw. Mae gadael mannau glaswelltog i dyfu drwy gydol yr haf yn caniatáu cadw gwlybaniaeth yn ystod cyfnodau sych, ac maent yn amsugno dŵr pan mae’n bwrw, sy’n lleihau perygl llifogydd.  

Mae gadael i’r gwair dyfu hefyd o fudd i fywyd gwyllt, yn enwedig trychfilod sy’n peillio. Ac yn storio carbon yn y ddaear, gan helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd ymhellach.  

Adfer ac amddiffyn mawndir a chorsydd 

Mae mawndir a chorsydd yn storio carbon ac mae’r cyngor wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill a thirfeddianwyr i adfer ac amddiffyn y cynefinoedd yma.

Mantais ychwanegol mawndir a chorsydd yw eu bod yn storio llawer o ddŵr, ac mae hyn yn lleihau llifogydd, gan helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd yn lleol.  

Coed a gwrychoedd 

Mae’r goeden iawn yn y lle iawn yn helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd mewn nifer o ffyrdd.  

Mae coed yn dal carbon wrth iddyn nhw dyfu a’i storio am lawer o flynyddoedd, yn dibynnu ar y math o goeden. Maent hefyd yn helpu i gysgodi adeiladau, pobl ac anifeiliaid mewn tywydd poeth, felly mae coed mewn trefi ac ardaloedd trefol yn arbennig o bwysig am y rheswm hwn. Bydd rhai mathau o goed yn amsugno dŵr a lleihau llifogydd, er enghraifft y wernen a’r helygen.

Mae gwrychoedd yn darparu coridorau hanfodol ar gyfer llawer o rywogaethau bywyd gwyllt ac maent yn ffordd dda o ymgorffori coed mewn gardd neu fan gwyrdd. Byddwch yn ofalus wrth eu tocio, fodd bynnag – fel y nodwyd uchod, mae adar yn nythu yn gynharach ac yn hwyrach yn y tymor oherwydd tywydd mwynach. Mae’n anodd iawn gweld y nythod.

Adfer afonydd

Mae Afon Lwyd a’i hisafonydd yn llifo drwy Dorfaen, gan ysbrydoli enw ein bwrdeistref sirol. Mae system iach o afonydd yn hanfodol o ran casglu a chludo dŵr, gan gynnwys yn ystod llifogydd, ac mae Cyngor Torfaen yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill i wella’r afon a chynefinoedd cysylltiedig lle bynnag y bo modd.

Os hoffech gael gwybod mwy am unrhyw un o’r pynciau hyn neu chwarae rhan yn y prosiectau sy’n gysylltiedig â’r erthygl hon, yna cysylltwch gyda’r Bartneriaeth Natur Leol – mae rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt i’w gweld yma Partneriaeth Natur Leol

Diwygiwyd Diwethaf: 05/11/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig