Y Bartneriaeth Natur Leol

Nod Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen yw dod â chymunedau ynghyd i archwilio, darganfod a rhannu natur ar eu stepen drws, i ddarparu cyngor a chefnogaeth i weithredu er budd bywyd gwyllt lleol.

wybodaeth am y bartneriaeth

Mae 23 o Bartneriaethau Natur Lleol ledled Cymru, a ffurfiwyd yn wreiddiol fel Partneriaethau Bioamrywiaeth Lleol o ganlyniad i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a lofnodwyd gan y DU a llawer o wledydd eraill yn Uwchgynhadledd Rio ym 1996. Yna cafodd yr holl Bartneriaethau Bioamrywiaeth y dasg o gynhyrchu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol. Mae llawer o Bartneriaethau Bioamrywiaeth bellach wedi dod yn Bartneriaethau Natur Lleol i adlewyrchu newidiadau o fewn Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Ffurfiwyd Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen yn 2017, gan uno dwy Bartneriaeth Bioamrywiaeth Leol oedd eisoes yn bodoli, a Chris Hatch yr ecolegydd a'r ffotograffydd bywyd gwyllt yw'r Cadeirydd. Mae'r BNL yn dwyn ynghyd ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys cynrychiolwyr awdurdodau lleol Blaenau Gwent a Thorfaen, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Cyfeillion y Ddaear, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Chadwch Gymru'n Daclus, yn ogystal ag unigolion sydd â diddordeb mewn natur leol.

Nodau’r BNL yw:

  • Codi ymwybyddiaeth ynghylch cadwraeth natur ac ymgysylltu â hi
  • Cefnogi a hyrwyddo camau gweithredu sydd o fudd i ecosystemau, cynefinoedd a rhywogaethau lleol
  • Codi ymwybyddiaeth ynghylch y camau y gall pobl eu cymryd i leihau pwysau ar rywogaethau a chynefinoedd lleol
  • Cynyddu ymgysylltiad o ran adnabod, cofnodi a monitro rhywogaethau a chynefinoedd lleol

Mae'r BNL yn cyfarfod yn rheolaidd, yn cynnwys ymweliad blynyddol â safleoedd diddorol, ac mae'n anfon diweddariadau rheolaidd i aelodau a phobl sydd â diddordeb. Os hoffech ymuno â'r rhestr bostio a derbyn y diweddaraf mewn e-bost, cysylltwch â Chydlynydd y BNL veronika.brannovic@torfaen.gov.uk. Gallwch hefyd ddod o hyd i’r BNL ar gyfryngau cymdeithasol:

Gweithredu dros natur leol

Mae'r BNL yn codi ymwybyddiaeth ynghylch natur leol, cyfleoedd i gymryd rhan mewn cadwraeth a'r hyn y gall pobl ei wneud i gymryd camau i leihau'r pwysau ar fywyd gwyllt lleol trwy ei llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyr rheolaidd a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Ar hyn o bryd mae'r Bartneriaeth yn datblygu ei Chynllun Gweithredu ar gyfer Natur Leol a'i Adroddiad Cyflwr Natur. Mae'r dogfennau hyn yn sail i wneud penderfyniadau, datblygu prosiectau a gweithredu'n lleol.

Prosiectau sy’n mynd rhagddyn ar hyn o bryd

Prosiect PNL Cymru - nod y prosiect aml-bartner hwn yw meithrin gallu PNLl a'u haelodau i gyflawni gwelliannau cynaliadwy ar gyfer ecosystemau a bod o fudd i natur leol. Darganfyddwch fwy am Brosiect PNL Cymru yma.

Lleoedd Natur Lleol - prosiect partneriaeth arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wella natur ‘ar eich stepen drws’. Ymhlith y gweithgareddau mae cefnogi rheoli ymylon er lles bywyd gwyllt, plannu gwrychoedd newydd a rheoli'r rhai presennol, waliau cerrig sych, cefnogi rheolaeth dolydd trefol a darparu hyfforddiant i gymunedau lleol. Os hoffech wybod mwy am y prosiect hwn, cysylltwch â'r Cydlynydd PNL ar veronika.brannovic@torfaen.gov.uk

Yr hyn fedrwch chi ei wneud dros natur

Mae yna lawer o bethau y gallwch chi eu gwneud dros fyd natur yn eich ardal - nid oes unrhyw gamau yn rhy fach i wneud gwahaniaeth. Lle da i ddechrau yw eich gardd neu hyd yn oed flwch ffenestr. Mae gwneud llai yn eich gardd mewn gwirionedd o fudd i fywyd gwyllt - mael gadael rhywfaint neu'r cyfan o'ch lawnt i dyfu'n hir trwy'r haf, peidio â defnyddio chwynladdwyr na phelenni gwlithod, gadael pennau hadau a choesynnau dros y gaeaf - yn lleoedd da i ddechrau gwneud gwahaniaeth. Wrth gynllunio’r hyn y gallwch ei wneud, meddyliwch o ran ‘bwyd, dŵr, mynediad a lloches’ - dyma anghenion sylfaenol bywyd gwyllt (a bodau dynol hefyd!).

Rhai adnoddau i’ch rhoi ar ben ffordd:

Mae hefyd yn bwysig iawn cofnodi'r bywyd gwyllt a welwch yn eich gardd neu allan ar deithiau cerdded - mae'n helpu i adeiladu llun o'r rhywogaethau a geir mewn gwahanol ardaloedd fel y gellir eu deall a'u diogelu'n well. Gallwch gyflwyno cofnodion ar www.sewbrecord.org.uk neu lawr lwytho’u hap – Ap LERC Wales. Gallwch hefyd ddarganfod pa natur y cofnodwyd yn eich ardal ar wefan Aderyn www.aderyn.lercwales.org.uk.

Ffordd arall o wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich ardal leol yw cefnogi ymgyrchoedd sy'n ceisio dylanwadu ar awdurdodau lleol ac eraill sy'n berchen ar dir, i reoli eu tir mewn modd mwy cynaliadwy. Er enghraifft, mae ymgyrch gan Plantlife i berswadio awdurdodau lleol i reoli ymylon ffyrdd ar gyfer bywyd gwyllt. Darganfyddwch fwy ar www.plantlife.love-wildflowers.org.uk

Gall ein dewisiadau o ran ein ffordd o fyw, gael effaith fawr ar yr amgylchedd ac ar natur leol. Yn yr un modd â garddio ar gyfer bywyd gwyllt, o ran lleihau ein heffaith, mae llai yn fwy. Meddyliwch sut y gallwch chi ddefnyddio llai o ddŵr, llai o drydan, lleihau eich gwastraff plastig a'ch defnydd o gar. Mae mwy o syniadau wedi’u cynnwys yn y daflen ‘MeWilding’ y soniwyd amdani uchod.

Diwygiwyd Diwethaf: 10/10/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Ecology Team

Ffôn: 07528 142095

Nôl i’r Brig