Gostyngiadau y Lluoedd Arfog

Os ydych yn rhan o gymuned lluoedd arfog Torfaen fe allech fod yn gymwys i dderbyn gwahanol ostyngiadau. Gweler y wybodaeth isod i gael gwybod mwy.

Os gwyddoch am unrhyw gynlluniau gostyngiadau neu gynigion arbennig sydd ar gael, e-bostiwch y manylion at: armedforces@torfaen.gov.uk

Cynllun Gostyngiadau'r Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae gwasanaeth gostyngiadau swyddogol y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gael i bob aelod o’r Gymuned Amddiffyn a medrwch ymuno’n rhad ac am ddim a dechrau arbed £100oedd y flwyddyn - www.defencediscountservice.co.uk

Buddion i'r Lluoedd Arfog

Gall personél milwrol gael cannoedd o ostyngiadau mewn nifer o siopau ar
y stryd fawr trwy ddefnyddio’r cynllun hwn - www.rewardsforforces.co.uk

Gostwng prisiau ceir i’r Lluoedd Arfog

Fe allai rhaglen ostyngiadau sydd wedi cael ei lansio, arbed filoedd o
bunnoedd ar gost car newydd i aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd- www.gov.uk

Gostyngiadau a Chynigion i’r Lluoedd Arfog

Yn cynnig gostyngiadau i ystod eang o fanwerthwyr, gan gynnwys band eang Sky, gwyliau TUI, Argos, EE a llawer mwy - www.forcesdiscountoffers.co.uk

Forces Compare

Mae Forces Compare yn rhoi codau disgownt unigryw i rai sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr, a hynny ar gynhyrchion yswiriant generig, ynghyd â gwasanaethau milwrol mwy penodol fel yswiriant offer milwrol - www.forcescompare.uk

Troopscout

Gostyngiadau ar lawer o wasanaethau a nwyddau siopau mawr y DU ar gyfer aelodau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd yn unig. AM DDIM i'w ddefnyddio ac yn cynnig arbedion ar frandiau mawr - www.troopscout.com

Diwygiwyd Diwethaf: 13/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog
Ffôn: 01495 762200
E-bost: armedforces@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig