Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn

Defence Employer Recognition Scheme - Silver AwardMae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn (ERS) yn annog cyflogwyr i gefnogi’r weinyddiaeth amddiffyn ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Mae'r cynllun yn cwmpasu gwobrau efydd, arian ac aur i sefydliadau sy'n addo, yn dangos neu'n hyrwyddo cefnogaeth i'r weinyddiaeth amddiffyn a chymuned y lluoedd arfog, ac yn alinio eu gwerthoedd â Chyfamod y Lluoedd Arfog.

Ar 22 Tachwedd 2018, dyfarnwyd y Wobr Arian i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy’n golygu:

  • Bod y cyngor wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog a’i fod yn ei gyflawni
  • Mae’r cyngor fel cyflogwr lleol, wedi ymrwymo i sicrhau nad yw personol sy’n gwasanaethu/ y gymuned lluoedd arfog dan anfantais yn y broses recriwtio a dethol
  • Mae’r cyngor yn cyflogi unigolion o gymuned y lluoedd arfog
  • Mae’r cyngor yn sicrhau bod ei weithlu yn ymwybodol o’r polisïau o ran darparu cefnogaeth i bersonél y weinyddiaeth amddiffyn
  • Mae’r cyngor yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddi personél y lluoedd arfog a sicrhau nad yw milwyr wrth gefn sy’n cael eu cyflogi, dan anfantais.
Diwygiwyd Diwethaf: 10/05/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Armed Forces Community Covenant

Ffôn: 01495 762200

E-bost: armedforces@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig