Cymorth a Chefnogaeth i'r Lluoedd Arfog

Mae amrywiaeth eang o wasanaethau ar gael gan lywodraeth leol, y Weinyddiaeth Amddiffyn a sefydliadau'r trydydd sector a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer cymuned y lluoedd arfog. Fe all fod yn ddryslyd ceisio dod o hyd i'r sefydliadau gorau i helpu.

Er mwyn hwyluso'r broses, mae cyfeiriadur o wasanaethau sydd ar gael i gyn-filwyr ar gael yma. Mae Veterans Gateway hefyd yn wasanaeth sy’n anelu i sicrhau bod cyn-filwyr yn ei chael hi’n haws o lawer cael mynediad i wasanaethau.

Pryd bynnag y byddwch yn gofyn am wasanaeth, rhowch wybod i ni eich bod yn aelod o gymuned y lluoedd arfog. Yn aml, bydd rheolau arbennig yn berthnasol i aelodau cymuned y lluoedd arfog o ran gwasanaethau llywodraeth leol, ac rydym am wneud yn siwr eich bod yn elwa ar y rhain.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gefnogi’r gymuned Lluoedd Arfog yng Nghymru. Eu nod yw i sicrhau nad yw aelodau ‘r gymuned hon o dan anfantais wrth dderbyn gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i wasanaeth y Lluoedd Arfog. I gefnogi'r nod hwn , cynhaliwyd adolygiad llawn o'r Pecyn Cymorth Lluoedd Arfog Cymorth eleni a cafodd y Pecyn Cymorth wedi'i ddiweddaru ei gynhyrchu a'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar 25 Mehefin at 2013.

Gallwch naill ai ein ffonio ni ar 01495 762200, anfon e-bost at armedforces@torfaen.gov.uk neu lenwi Ffurflen Ar-lein Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/10/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Ffôn: 01495 762200

E-bost: armedforces@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig