Arolygwyr yn canmol ysgol gynhwysol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Ebrill 2024
Untitled design (51)

Mae ysgol gynradd wedi cael ei chanmol am ddarparu addysg o ansawdd da ar gyfer ei holl ddisgyblion, gan gynnwys y rheiny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Fe fu arolygwyr Estyn yn ymweld ag Ysgol Gynradd Penygarn, ym Mhont-y-pŵl, ym mis Ionawr, yn rhan o’r amserlen fonitro flynyddol.

Daeth tîm Estyn i’r casgliad fod Penygarn yn gymuned ofalgar, lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel, yn frwdfrydig ynghylch dysgu, yn ffurfio cydberthnasau cadarnhaol ac yn dangos parch at eu cyfoedion a’r aelodau o staff.

Roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd fis yma, hefyd yn cydnabod ymdrechion yr ysgol i greu cydberthnasau cryf gyda rhieni a theuluoedd ac i ddarparu dewis effeithiol o gymorth ar y cyd ag asiantaethau allanol, sy’n rhoi pwyslais cryf ar gefnogi llesiant pob un.

Yn ôl Estyn, mae’r ddarpariaeth sydd ar gael i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn hynod o fuddiol, ac mae yna ddiwylliant cryf o ddiogelu ar draws yr ysgol, a phennaeth sy’n effeithiol yn ei rôl ac yn arwain gyda chryfder a gofal.

Fe fu Estyn yn arsylwi ar yr amrywiaeth o brofiadau dysgu perthnasol, sy’n cadw diddordeb disgyblion mewn dysgu. Yn ganlyniad, mae mwyafrif y disgyblion, gan gynnwys y rheiny ag anghenion dysgu ychwanegol, yn ymgysylltu’n dda â’u dysgu.

Meddai Sarah Hirons, Cadeirydd Llywodraethwyr Penygarn: “Hoffwn ddiolch i’r pennaeth, yr uwch-dîm arwain, y corff llywodraethu a phob aelod o staff, am eu gwaith caled a’u hymroddiad i gymuned yr ysgol.  Roedd yn bleser darllen Adroddiad Estyn, ac roedd yn amlygu ein hethos cynhwysol, gofalgar a meithringar, y mae disgyblion yn elwa arno, ac y mae disgyblion, rhieni ac aelodau o staff yn falch ohono.

“Mae hyn yn adlewyrchiad go iawn o ddatganiad cenhadaeth ein hysgol ‘meithrin calonnau a meddyliau’r dyfodol.’ Braint o’r mwyaf i mi yw bod yn gadeirydd ar lywodraethwyr Ysgol Gynradd Penygarn."

Ychwanegodd Lyndsay Smith, Pennaeth Penygarn: “Mae’n bleser gweithio gyda staff a gweithwyr proffesiynol mor ymroddgar a llwyddiannus. Rwy’n falch iawn o arolygiad ac adroddiad diweddaraf Estyn a hoffwn ddiolch i’r disgyblion, rhieni, Llywodraethwyr a’r gymuned ehangach am barhau i gefnogi’r ysgol.”

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae mor braf darllen adroddiad cadarnhaol arall gan Estyn sy’n amlygu agweddau allweddol ar fywyd yr ysgol i ddisgyblion a staff.

“Mae hyn yn dyst i’r ymdrech barhaus i wella gwasanaethau addysg ledled Torfaen, a sut y mae ysgolion a’r Cyngor yn gweithio i sicrhau canlyniadau gwell i ddisgyblion.”

Roedd yr arolygwyr yn argymell bod yr ysgol yn mireinio’i hunanwerthuso fel bod gwelliant yn canolbwyntio ar ddisgyblion.

Os hoffech chi ddarllen adroddiad Estyn, cliciwch yma. 

Diwygiwyd Diwethaf: 19/04/2024 Nôl i’r Brig