Grant sy'n ceisio uno diwylliannau a dathlu amrywiaeth yn agor

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Ebrill 2024

Mae grant sy’n anelu i ariannu prosiectau sy'n helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd, wedi agor.

Mae cynllun Grantiau Bach Cydlyniant Cymunedol Gorllewin Gwent ar gael i brosiectau cymunedol sy’n cael eu cynnal ym mwrdeistref Caerffili, Blaenau Gwent neu Dorfaen.

Gall grwpiau cymunedol, sefydliadau'r trydydd sector ac ysgolion, wneud cais am hyd at £3000 i helpu i ddechrau prosiect neu gefnogi prosiect cymunedol sy'n bodoli eisoes.

Dylai pob prosiect cymwys geisio herio gwahaniaethu, hybu cynhwysiant, a rhoi cyfleoedd i bobl nad ydynt fel arfer yn dod at ei gilydd, i gwrdd, a dathlu eu diwylliant neu’u crefydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r cynllun grantiau bach yw dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024 a rhaid cwblhau’r prosiectau erbyn 31 Ionawr 2025.Cliciwch yma i wneud cais ar-lein.

Cafodd Ysgol Gorllewin Mynwy gyllid yn 2023, i ddathlu diwylliant y gymuned Sipsiwn, Romani a Theithwyr.

Cafodd ddisgyblion ysgol sy’n aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Romani a Theithwyr y dasg o greu arddangosfa i roi cipolwg ar safleoedd teithwyr lleol gyda'r nod o leihau stereoteipio a rhannu eu hanes a'u traddodiadau.

Fe wnaethant dynnu lluniau, recordio lleisiau aelodau hŷn y gymuned, rhannu’r cerddi yr oeddent wedi’u hysgrifennu, a’u harddangos yn rhan o’r arddangosfa.

Mae'r prosiect wedi ei gwblhau ers hynny gyda'r arddangosfa'n agor ym Amgueddfa Torfaen mis Mehefin, fel rhan o Fis Sipsiwn, Romani a Theithwyr.

I wneud cais neu i gael mwy o wybodaeth am y grant cysylltwch â Bridie ar: e-bost Bridie.saunders@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01633 647223.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/04/2024 Nôl i’r Brig