Chwaraeon sy'n ystyriol o ddementia

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 29 Ebrill 2024
Dementia sports

Mae rhaglen chwaraeon arloesol yn cefnogi dioddefwyr dementia i ail-fyw eu hoff chwaraeon a'u helpu i fyw bywydau hapusach a mwy actif.

Mae dros 50 o bobl sy'n dioddef o ddementia a'u gofalwyr wedi ymuno â Rhaglen Chwaraeon sy'n Ystyriol o Ddementia, sydd wedi ei threfnu gan Age Connects Torfaen mewn partneriaeth ag Adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Torfaen.

Hyd yma, mae’r cyfranogwyr wedi cymryd rhan mewn gêm golff sy’n ystyriol o ddementia yng nghlwb Golff Greenmeadow, yn ogystal â sesiynau wythnosol yn y gampfa gyda Strength & Performance Wales. Mae tenis â chymorth wedi ei drefnu ar gyfer misoedd yr haf.

Gall hyd at ddeg o bobl fynychu pob gweithgaredd, ond bydd sesiynau ychwanegol yn cael eu cyflwyno os bydd y niferoedd yn mynd yn uwch.

Mae mwy na thri chwarter miliwn o bobl yn dioddef o ddementia yn y DU ar hyn o bryd a disgwylir y bydd un o bob tri ohonom yn datblygu'r cyflwr ar ryw adeg yn ein bywyd.

Mae ymchwil yn dangos y gall ymarfer corff rheolaidd gefnogi gweithrediad gwybyddol yn ogystal â gwella lles corfforol a meddyliol i bobl â dementia yn ogystal â'u gofalwyr.

Ychwanegodd Cerys Williams, Swyddog Datblygu Chwaraeon Torfaen: “Mae'r gweithgareddau yr ydym wedi'u trefnu yn rhoi cyfle i'r cyfranogwyr roi cynnig ar rywbeth newydd neu ailgydio mewn gweithgaredd a oedd yn ffefryn iddynt ar un adeg, a thrwy wneud hynny byddant yn elwa ar y manteision corfforol, emosiynol a chymdeithasol y gall gweithgarwch corfforol eu cynnig iddynt.”

“Trwy gydweithio â darparwyr cymunedol lleol, gan gynnwys Clwb Golff Pontnewydd a Strength & Performance Wales, ein gweledigaeth yw grymuso mwy o bobl sy’n dioddef o ddementia i gymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau gwell ansawdd bywyd.”

Dywedodd Emma Wootten, Rheolwr Datblygu Age Connects Torfaen: “Rydym yn hynod ddiolchgar i'r cyfleusterau cymunedol lleol am eu cefnogaeth gadarn ac i'r tîm yn Adran Datblygu Chwaraeon Torfaen am eu cymorth a'u cyngor wrth ddatblygu'r fenter newydd hon. Mae eu cyfraniad wedi ein galluogi i greu rhaglen ystyrlon ac effeithiol a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau'r rhai y mae dementia yn effeithio arnynt, a’u cymheiriaid.”

Anogir unigolion sydd â diddordeb mewn ymuno, neu sefydliadau sydd am gefnogi'r rhaglen, i gysylltu â Sarah Windsor ar 01495 769264 neu sarah.windsor@ageconnectstorfaen.org

I gael mwy o wybodaeth am Age Connects Torfaen ewch i www.ageconnectstorfaen.org neu dilynwch Age Connects Torfaen ar y cyfryngau cymdeithasol.

Diwygiwyd Diwethaf: 29/04/2024 Nôl i’r Brig