Byddwch yn barod ar gyfer ID pleidleisiwr

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 6 Medi 2023
Katie at TLZ

O’r mis nesaf ymlaen, bydd angen i bleidleiswyr ddangos dogfennaeth adnabod er mwyn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mewn rhai etholiadau.

Daw’r ddeddfwriaeth i rym ar gyfer Etholiadau Cyffredinol, isetholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, sydd i’w cynnal fis Mai'r flwyddyn nesaf.

Mae’n golygu y bydd angen i unrhyw un sydd am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn yr etholiadau yma ddangos dogfennaeth adnabod – fel pasbort, trwydded gyrru neu bàs bws – cyn bwrw pleidlais. Dysgwch beth sy’n gymwys fel ID Pleidleisiwr.  

Gall unrhyw un sydd heb ffurf dderbyniol o ddogfennaeth adnabod â llun wneud cais ar-lein am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim. Gallwch gael cymorth yn unrhyw un o  lyfrgelloedd Torfaen

Yr wythnos yma, bydd tîm etholiadau’r cyngor ym Mharth Dysgu Torfaen i ddweud wrth y rheiny a fydd yn pleidleisio am y tro cyntaf am y newid.  

Dywedodd Caroline Genever-Jones, Rheolwr Etholiadau a Busnes Cyngor Torfaen: "Ni fydd cyflwyno ID pleidleisiwr yn newid sylweddol i’r rhan fwyaf o bobl – bydd yn golygu cofio mynd â’r dogfennau gyda chi pan fyddwch yn mynd i bleidleisio. 

"Ond efallai na fydd gan bleidleiswyr ifanc, sydd heb wneud cais eto am drwydded gyrru neu basbort, a phleidleiswyr hŷn, sydd ddim yn gyrru bellach na ddim yn defnyddio’r bws, ffurf dderbyniol o ID â llun. 

"Gall unrhyw un heb ID â llun wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar-lein neu gysylltu â’n tîm am gymorth.

"Bydd angen i chi lanlwytho ffotograff gyda’ch cais.  Cofiwch gyflwyno llun math pasbort, felly llun lliw o’r pen a’r ysgwyddau, yn erbyn cefndir plaen, golau, gyda dim bydd yn gorchuddio’ch wyneb oni bai bod hynny am resymau crefyddol."

Nid fydd rhaid i bobl sy’n pleidleisio trwy’r post gyflwyno dogfennaeth adnabod.

Ni fydd y ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol i etholiadau Senedd Cymru nac etholiadau lleol yng Nghymru. 

Bydd angen eich bod chi wedi cofrestru i bleidleisio i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. I gofrestru ewch at dudalen Cofrestru i bleidleisio. Yng Nghymru, gall unrhyw un dros 16 oed bleidleisio mewn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau lleol a gallant gofrestru o 14 oed ymlaen.  

Am wybodaeth am y mathau derbyniol o ID pleidleisiwr ac i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.

Mae Cyngor Torfaen yn chwilio am Swyddogion Llywyddu a Chlercod Pleidleisio.  Mae tâl am y ddwy rôl a byddwch yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth.  Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Gweithio mewn etholiad neu ffoniwch y tîm etholiadau ar 01495 766083.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2023 Nôl i’r Brig