Sut i waredu fêps yn ddiogel

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Hydref 2023

Amcangyfrifir bod 5 miliwn o fêps untro yn cael eu taflu i ffwrdd bob wythnos yn y Deyrnas Unedig – sydd gywerth ag wyth fêp bob eiliad.   

Mae fêps untro a rhai y gellir eu hailddefnyddio yn achosi risg o dân os ydynt yn cael eu gosod mewn biniau sbwriel â chlawr porffor, oherwydd y batris a’r cemegau sydd ynddynt.  

Gall trigolion gael gwared ar fêps untro a rhai y gellir eu hailddefnyddio yn ddiogel trwy fynd â nhw i’r adran teclynnau trydanol bach yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd neu eu dychwelyd at fanwerthwr.  

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae mynd â hen fêps i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn gymorth i ddiogelu ein criwiau rhag y risg o dân ac yn eu hatal rhag cyrraedd pen eu taith fel sbwriel. Mae hefyd yn golygu eu bod yn cael eu hailgylchu.  

“Os oes unrhyw un yn methu â chyrraedd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, yna mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar y manwerthwr lle prynwyd y fêp i dderbyn yr hen fêp yn ôl.”   

Mae fêps yn un o 35 o eitemau gwahanol sy’n gallu cael eu hailgylchu yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae’r eitemau eraill yn cynnwys matresi, dodrefn, oergelloedd, rhewgelloedd, setiau teledu a bwrdd plaster.  

Mae mynd ag eitemau i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i’w hailgylchu yn gymorth i’r Cyngor ddod yn agosach at gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn mis Mawrth 2025. 

Peidiwch ag anghofio didoli’ch gwastraff a’ch deunyddiau i’w hailgylchu cyn mynd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Byddwn yn edrych trwy’r bagiau du.  

Rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ailgylchu yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref 

Diwygiwyd Diwethaf: 27/10/2023 Nôl i’r Brig