Ailgylchu gwyrdd yn cynyddu

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20 Hydref 2023

Mae’r gwastraff gwyrdd sy’n cael ei ailgylchu yn Nhorfaen wedi cynyddu ers dechrau Ebrill.

Mae 210 tunnell fetrig o blanhigion yn ychwanegol wedi cael eu casglu o gymharu â llynedd – cymaint â maint morfil glas!

Bydd casgliadau gwastraff gwyrdd yn parhau tan ddiwedd Tachwedd ac yn ailddechrau ym Mawrth 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rwy’n falch iawn bod ailgylchu gwastraff gwyrdd wedi cynyddu, yn ogystal â phethau eraill i’w hailgylchu, fel bwyd.

“Rydym yn gweithio’n galed i godi’r gyfradd ailgylchu yn Nhorfaen, ac mae’r ffigyrau’n dechrau dangos hynny.

"Cyflwynon ni arbrawf compost am ddim i drigolion yn ddiweddar gyda’n casgliadau gwyrdd, felly po fwyaf o bobl sy’n ailgylchu eu gwastraff gwyrdd gyda ni, mwyaf o gompost fydd ar gael gennym y flwyddyn nesaf.   

"Gall pawb helpu i gynyddu faint sy’n cael ei ailgylchu trwy sicrhau bod yr eitemau cywir yn mynd i’r bin gwyrdd – felly dim bagiau plastig, pridd na rwbel os gwelwch yn dda." 

Bydd casgliad olaf y flwyddyn i’r rheiny ar galendr A a B yn ystod yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 27 Tachwedd.

Bydd casgliad olaf y flwyddyn i’r rheiny ar galendr C a D yn ystod yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 20 Tachwedd.

Gall trigolion gasglu compost am ddim o Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.  Mae gofyn i bobl gymryd dim mwy na dau fag ar y tro a gofynnir iddynt ddod â’u bagiau â rhaw eu hunain. 

Gall biniau gwyrdd gael eu defnyddio i ailgylchu gwair, dail, tociadau perthi, brigau bach, planhigion marw a blodau.  Gallan nhw gael eu defnyddio i ailgylchu deunydd gwely anifeiliaid bach fel bochdew neu fochyn cwta.  

Mae ailgylchu gwastraff gwyrdd yn helpu’r cyngor i glosio at gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn Mawrth 2025.

Dysgwch fwy am gasgliadau gwastraff gwyrdd

Dysgwch fwy am ailgylchu yn Nhorfaen i helpu i Godi’r Gyfradd

 

Diwygiwyd Diwethaf: 20/10/2023 Nôl i’r Brig