Adolygu mynwentydd y Cyngor

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Tachwedd 2023

Y flwyddyn nesaf, fel rhan o’r camau i adolygu mynwentydd, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal.

Roedd arolwg cyhoeddus yn un o'r argymhellion mewn adroddiad a drafodwyd ddydd Mercher 15 Tachwedd gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Glanach.

Clywodd cynghorwyr bod nifer y cwynion am y gwasanaeth wedi cynyddu eleni, gyda'r cwynion mwyaf cyffredin yn ymwneud â pholisïau ac arferion gweithredol.

Felly, nod yr ymgynghoriad fydd nodi a mynd i'r afael â meysydd i'w gwella. Bydd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau, sy’n amrywio o’r hyn y mae defnyddwyr y gwasanaeth yn ei feddwl am y cyfleusterau mewn mynwentydd, i’w profiad wrth ddelio â staff.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd,: “Mae peth amser wedi mynd heibio ers inni adolygu ein gwasanaeth mynwentydd, felly mae’n ymddangos mai dyma’r cyfle perffaith.

“Y flwyddyn nesaf byddwn yn ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill sy'n defnyddio'r gwasanaeth mynwentydd i gael adborth gonest am yr hyn sy'n dda, a'r hyn y maent yn credu sydd angen ei wella.

“Mae angen i ni sicrhau bod y gwasanaeth yn cyflawni ei ddyletswyddau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau, ond mae'n rhaid i ni fod yn realistig ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. 

“Trafodwyd rhai gwelliannau cyflym yn y cyfarfod craffu, fel diweddaru tudalennau gwe y Cyngor i helpu i ateb y cwestiynau sydd gan ddefnyddwyr y gwasanaeth.”

Roedd argymhellion eraill yn cynnwys sicrhau bod gan yr holl fynwentydd ddigon o wybodaeth ac arwyddion, ac adolygu'r polisi ar yr hyn sy'n dderbyniol i'w adael wrth ymyl bedd. 

Darllen yr adroddiad yma

Dod o hyd i fwy o wybodaeth am fynwentydd yn Nhorfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 17/11/2023 Nôl i’r Brig