Ymgynghoriad ar wasanaeth mynwentydd y Cyngor

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Mawrth 2024

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei lansio ac mae’n canolbwyntio ar y ffordd y mae’r Cyngor yn rheoli ei wasanaeth mynwentydd.

Cyfrifoldeb y Cyngor yw rheoli Mynwentydd Blaenafon, Cwmbrân, Panteg a Llwyncelyn.

Nod yr arolwg yw dod o hyd i feysydd i’w gwella yn dilyn adroddiad gerbron Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Glanach, a amlygodd gynnydd yn nifer y cwynion y llynedd. 

Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg trwy ein gwefan Dweud Eich Dweud Torfaen neu yn un o’r sesiynau galw-heibio canlynol:

  • Dydd Mawrth 2 Ebrill, 11am-2pm, yn y cyfarfod yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon.
  • Dydd Mercher 3 Ebrill, 11am-2pm, ym Mynwent Llwyncelyn, Cwmbrân.
  • Dydd Iau 4 Ebrill, 11am-2pm, ym Mynwent Panteg, Pont-y-pŵl.

Mae pob un o’r sesiynau wyneb-yn-wyneb yn trafod pob un o bedair mynwent Torfaen, felly fe allwch chi fynd i unrhyw sesiwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Mae’n cymryd tua 10 munud i lenwi’r holiadur ac fe fydd yn cau am 5pm ddydd Gwener 12 Ebrill.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros Yr Amgylchedd: “Er bod ein tîm yn ymateb i bob cwyn, dyma gyfle i’r gwasanaeth adnabod atebion strategol i faterion neu broblemau cyffredin.  

"Rydym yn croesawu unrhyw adborth, ac er bod yn rhaid i ni fod yn realistig o ran yr hyn y gellir ei gyflawni yn yr oes economaidd sydd ohoni, mae arnom angen sicrhau bod y gwasanaeth yn cyflawni ei ddyletswyddau ar gyfer ein trigolion."

Mae’r wybodaeth am bolisïau mynwentydd wedi cael ei diweddaru ar wefan y Cyngor er mwyn sicrhau ei bod yn gliriach i drigolion, yn unol ag un o argymhellion y Pwyllgor Craffu.

Cymerwch ran yn yr arolwg yma

Rhagor o wybodaeth am fynwentydd yn Nhorfaen

 

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 22/03/2024 Nôl i’r Brig