Cyngor yn lansio mannau ailgylchu plastig meddal er mwyn Codi'r Gyfradd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 30 Mehefin 2023

Bydd mannau ailgylchu cyhoeddus ar gyfer bagiau a lapio plastig sy’n cael ei alw’n “plastig ymestynnol” yn cael eu cyflwyno gan dîm gwastraff ac ailgylchu Cyngor Torfaen.

Mae’r man casglu cyntaf wedi agor yn y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl, gyda bwriad o gyflwyno mwy o fannau casglu yn y dyfodol agos.

Bydd trigolion yn gallu ailgylchu plastig meddal gan gynnwys bagiau bara, bagiau cludo, lapio swigod, cylchoedd pecyn chwech a phecynnu allanol caniau diod neu gartonau trwy roi  eitemau i mewn i gywasgwr ac yna rhoi’r deunydd wedi ei wasgu i mewn i fin ailgylchu mawr, glas. Bydd cyfarwyddiadau ac arwyddion ar y safle i drigolion.

Bydd y plastig wedyn yn cael ei ailgylchu gan Capital Valley Plastics, o Flaenafon sy’n troi’r plastig yn bilen ar gyfer y fasnach adeiladu. Gallwch ddysgu sut trwy wylio’n fideo.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae llawer o bobl wedi gofyn cwestiynau am blastig ymestynnol yn ystod ein hymgynghoriad Codi’r Gyfradd, felly rydym ni wedi bod yn gweithio’n gyflym i sefydlu man casglu.

“Dim ond plastig sy’n ymestyn pan gaiff ei dynnu sy’n gallu cael ei ddefnyddio gan Capital Valley Plastics, felly nid ydym yn gallu cymryd eitemau fel pacedi bisgedi neu greision, bagiau salad neu bacedi bwyd anifeiliaid.  Mae’n helpu hefyd os yw’r eitemau’n sych ac yn lân.

“Rydym yn gwybod bod rhai archfarchnadoedd yn casglu plastig meddal, ond rydym yn gobeithio y bydd cael y Ganolfan Ddinesig fel man gollwng yn helpu rhai pobl i ailgylchu mwy o’u gwastraff ac osgoi ei ddanfon i’w gladdu.

“Hoffem annog busnesau i gysylltu os ydyn nhw am fod yn fan gollwng plastig ymestynnol i’n helpu i godi’r gyfradd ailgylchu yn Nhorfaen.”

Dywedodd Roger Phillips o Capital Valley Plastics: “Gyda’n gilydd, os gallwn ni i gyd yn ailgylchu ychydig yn fwy, gallwn ni i gyd helpu i godi’r gyfradd ailgylchu yn Nhorfaen.

“Mae’r plastig ymestynnol yn teithio dim ond i Flaenafon i gael ei droi’n gynhyrchion adeiladu fel pilenni gwrthleithder sy’n cloi ôl-troed carbon y cynnyrch am hynny o amser y mae’r adeilad yn sefyll.  Trwy ailgylchu’r deunydd yma yn Nhorfaen, mae’n atal y plastig rhag cael ei losgi neu, hyd yn oed yn waeth,  cyrraedd y strydoedd neu’r moroedd.

“Mae ailgylchu’n dda i’r amgylchedd, yn dda i’r trethdalwr ac mae’n helpu i gadw pobl mewn gwaith yn Nhorfaen.”

Mae cyflwyno mannau casglu plastig ymestynnol a chynyddu ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn ddwy o’r ffyrdd mae Cyngor Torfaen yn helpu i godi’r gyfradd ailgylchu.  Dysgwch fwy am ein gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd

Os ydych chi’n gwybod am fusnes a fyddai â diddordeb mewn bod yn fan casglu ar gyfer plastig ymestynnol, cysylltwch â’r Tîm Gwastraff ar 01495 762200 neu drwy e-bost at waste@torfaen.gov.uk.

Dysgwch fwy am ailgylchu plastig ymestynnol

Mae cynyddu ailgylchu’n rhan allweddol o Gynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd a Natur  y cyngor a’n Cynllun Sirol.

Dilynwch y Cyngor ar Facebook a Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #CodirGyfraddTorfaen i ddysgu am y newidiadau yr ydym yn eu gwneud fel gwasanaeth i gynyddu cyfraddau ailgylchu, a dysgu sut allwch chi ailgylchu mwy gartref.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 07/07/2023 Nôl i’r Brig