Cannoedd yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 29 Mehefin 2023
Mountain biking 1

Mae dros 500 o bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn wythnos llawn hwyl o weithgareddau, fel rhan o Wythnos Genedlaethol Gwaith Ieuenctid.

Cafodd y bobl ifanc gyfle i fynd ar lwybr beicio mynydd o amgylch Parc Pont-y-pŵl, datblygu eu sgiliau coginio yn Ashley House yng Nghwmbrân, a rhoi tro ar gelf sialc yng Nghlwb Ieuenctid Fferm Ysgubor Oer.

Cymerodd disgyblion blwyddyn chwech o o leiaf 20 o ysgolion ran yn rhaglen bontio John Muir sy’n cefnogi pobl ifanc i gael profiad o’r awyr agored a datblygu cyfeillgarwch newydd cyn symud i’r ysgol uwchradd.

Ar yr un pryd aeth Grŵp Rhieni Ifanc Torfaen yn greadigol gan wneud poteli gliter synhwyraidd i’w rhai bach.

Gwnaeth 40 o bobl ifanc o Ysgol Croesyceiliog Wobr Efydd Dug Caeredin, dan arweiniad Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen.

Mae’r wobr yn helpu pobl ifanc ar hyd y llwybr at ddyfodol cynhyrchiol a llewyrchus trwy ddatblygu sgiliau a hyder.

Bwriad Wythnos Gwaith Ieuenctid yw cydnabod a dathlu effaith sylweddol gwaith ieuenctid ar fywydau pobl ifanc.

Yn ystod yr wythnos, rhoddodd Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen gyflwyniad am arfer gorau mewn gwaith ieuenctid mewn digwyddiad Wythnos Genedlaethol Gwaith Ieuenctid yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Roedd y digwyddiad yn taflu goleuni ar waith ieuenctid o bob rhan o Gymru ac ymwelodd Prif Weithredwr WLGA ac uwch swyddogion y llywodraeth ag ef.

Rhannodd Morgan, tair ar ddeg oed o Gwmbrân, eu profiad, gan ddweud: "Cawsom ni gyfle i roi tro ar dro-ffrio ac roedd yn wych! Rydym yn cael rhoi tro ar bethau newydd, dysgu pethau newydd, ac rwy’n cael bod gyda fy ffrindiau.”

“Mae’r gweithwyr ieuenctid yn gefnogol ac yn garedig. Maen nhw’n gwrando arnom ni ac rwy’n teimlo bob amser fy mod i’n cael fy mharchu."

Ar y cyd â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, cynhaliodd Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen hefyd weminar i gydnabod arweinyddiaeth mewn gwaith ieuenctid.

Roedd yn targedu pobl broffesiynol o faes Addysg ledled Cymru i rannu dysgu a’u barn ar arweinyddiaeth, gyda dros 45 o arweinwyr yn bresennol o ar draws Cymru.

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Ieuenctid, David Williams: "Mae dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle gwych i arddangos y gwaith ardderchog sy’n digwydd ledled Cymru.

“Mae ein tîm o weithwyr ieuenctid yma yn Nhorfaen yn gweithio mor galed ochr yn ochr â phobl ifanc i ddatblygu rhaglenni a gwasanaethau mewn ffordd ymgynghorol a chynhwysol sy’n adlewyrchu anghenion pobl ifanc a’u cymunedau.  Mae’n wych cael gweithio gyda grŵp mor arbennig o bobl."

I wybod y diweddaraf am gynlluniau a digwyddiadau Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen yr haf yma, dilynwch eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Instagram,  Twitter @torfaenyouth. Fel arall, ewch i weld manylion Gŵyl Hwyl Torfaen ar wefan Cysylltu Torfaen: connecttorfaen.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 29/06/2023 Nôl i’r Brig