Disgyblion yn helpu i ail-frandio ysgol

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 20 Mehefin 2023
NIMO Cwmbran High

Mae disgyblion mewn ysgol uwchradd yng Nghwmbrân wedi dyfeisio arwyddair a bathodyn newydd ar gyfer eu hysgol.

Gofynnwyd i blant o bob grŵp blwyddyn yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân gyflwyno eu hawgrymiadau. Yna aeth cynrychiolwyr o’r dosbarthiadau, tîm arweinwyr y myfyrwyr a'r pennaeth Matthew Sims ati i lunio rhestr fer.

Bydd yr arwyddair buddugol - "Ymdrechu, Credu, Cyflawni" – yn cael ei arddangos yn yr ysgol, a bydd y bathodyn terfynol, sy’n cynnwys draig, yn cael ei ymgorffori yn y wisg ysgol newydd o fis Medi 2023.

Dywedodd Georgie, Blwyddyn 11, y Brif Ferch sydd hefyd yn rhan o dîm arwain y myfyrwyr: “Rwyf wrth fy modd â'r bathodyn newydd.  Credaf fod y ddraig nid yn unig yn cynrychioli Cymru, ond mae hefyd yn cynrychioli’r cryfder a'r hyder yn ein hysgol i dyfu. Fel tîm o arweinwyr fe wnaethom ymgynghori â'r holl rhanddeiliaid, yn cynnwys ein corff llywodraethu, rhieni ac yn bwysicaf oll, y disgyblion ymhob blwyddyn. Rydym yn hynod falch o'r dyluniad terfynol a bydd pawb yn yr ysgol yn ei wisgo â balchder ym mis Medi 2023.”

Ychwanegodd Lewis, Prif Fachgen sydd hefyd yn ddisgybl ym Mlwyddyn 11: “Dwi'n teimlo bod y bathodyn newydd yn nodi cyfnod newydd i Ysgol Uwchradd Cwmbrân. Ochr yn ochr â hyn, bydd arwyddair newydd yr ysgol - Ymdrechu, Credu, Cyflawni, yn cael ei ymwreiddio ar draws yr ysgol. Mae hyn yn adlewyrchu ein gwerthoedd i’r dim, sef ymagwedd gadarnhaol, caredigrwydd, gwydnwch, parch a chreadigrwydd."

Mae’r ail frandio yn rhan o nifer o newidiadau sy’n cael eu cyflwyno ym mis Medi 2023, ochr yn ochr a gwefan newydd, cynlluniau i ymestyn y ffreutur a chreu ardal fwyta newydd yn yr awyr agored. Mae nifer o aelodau staff newydd hefyd wedi cael eu penodi.

Meddai Mr Matthew Sims, Pennaeth, a gafodd ei benodi ym mis Medi 2022: " Mae disgyblion a rhieni yn hollbwysig i lwyddiant unrhyw ysgol. Roeddwn am sicrhau eu bod wrth galon y camau i siapio diwylliant newydd yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân, ac un sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd addysg. Rwyf wedi treulio llawer o amser gwerthfawr yn gwrando ac yn sgwrsio â disgyblion. Roeddent o’r farn bod y syniad o ail frandio’r ysgol ochr yn ochr â’r gwerthoedd newydd yn bwysig iawn ac yn allweddol i wella’r ysgol. Byddwn yn cadw lliwiau'r ysgol oherwydd bod y disgyblion yn eu hoffi, a byddwn yn cyflwyno polisi gwisg ysgol newydd o fis Medi.  Bydd pob disgybl yn derbyn tei sy'n cynnwys logo newydd yr ysgol.”

Fe wnaeth Mr Sims, hefyd drafod adeiladau’r ysgol gyda’r disgyblion, ac yn benodol eu pryderon o ran maint y ffreutur. O ganlyniad, bydd yr ysgol yn adeiladu dau fan eistedd awyr agored dan ganopi, i alluogi mwy o ddisgyblion i eistedd a bwyta’u cinio gyda’u ffrindiau.

Ychwanegodd Mr Sims: " Cynyddu presenoldeb ysgol i 95% ar gyfartaledd yw un o’n hamcanion. Os nad yw disgyblion yn yr ysgol, ni allwn ddarparu addysg o’r radd flaenaf ar eu cyfer. I’w helpu i gyflawni hyn, mae’r ysgol wedi penodi sawl aelod o staff newydd a chyflwyno swyddog presenoldeb ysgol i weithio gyda disgyblion a’u teuluoedd i’w helpu i wella’u presenoldeb yn yr ysgol. Mae ymgyrch y Cyngor, #DdimMewnColliMas, yn helpu i dynnu sylw at y cyfoeth o brofiadau y bydd plant yn eu methu os nad ydynt yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd

(O’r chwith i’r dde: Eirys, Georgie, Matthew Sims, Imogen, Lewis)

Diwygiwyd Diwethaf: 22/06/2023 Nôl i’r Brig