Ysgol uwchradd yn Nhorfaen yn croesawu'r Wythnos Werdd Fawr

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Mehefin 2023

Mae disgyblion ysgol ym Mhont-y-pŵl wedi troi eu hysgol yn werdd fel rhan o’r Wythnos Fawr Werdd.

Gyda chwis hinsawdd a chystadleuaethau poster, codi sbwriel a lobio aelodau’r Senedd ar gyfraith amgylcheddol, mae disgyblion Ysgol Gatholig Sant Alban wedi cofleidio thema’r wythnos o daclo newid yn yr hinsawdd a gwarchod natur.

Cymerodd yr adran ddrama ran hefyd gan ddefnyddio’u creadigrwydd i ddod â lluniau o goed yn fyw ynghyd â’r broses o droi carbon deuocsid yn ocsigen angenrheidiol.

Uchafbwynt yr wythnos oedd ymweliad gan y grŵp ymgyrchu Climate Cymru, a drafododd gyda’r disgyblion fanteision bod allan yng nghanol natur, y ffaith fod natur yn dirywio ar hyn o bryd, a beth sy’n gallu cael ei wneud i newid hynny.

Mae’r Wythnos Fawr Werdd yn gynllun cenedlaethol sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth a gweithredu amgylcheddol.

Mae gweithgareddau wedi bod yn digwydd ledled y fwrdeistref gan gynnwys rhoi planhigion am ddim, sgyrsiau am natur a gweithdai’n ymwneud â sut i helpu natur.

Dywedodd Natalie Hillman, Pennaeth Cynorthwyol Cysylltiol yn Ysgol Uwchradd Sant Alban “Mae Tîm Eco’r ysgol, y Green Beans, wedi bod yn gweithio’n ddiflino i gael Statws Ysgol Eco Efydd. Pan glywsom ni am yr Wythnos Fawr Werdd, roedden ni’n awyddus i gael y cyfle i gwrdd â Climate Cymru.

“Roedd yn wych, ac roedd y plant wrth eu bodd. Trwy gydol yr wythnos, rydym wedi bod yn hyrwyddo arwyddocâd natur, ac rydym yn gobeithio bod pawb wedi cael hwyl ond hefyd wedi cael gwybodaeth werthfawr."

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Hoffwn ddweud da iawn i bawb yn Ysgol Uwchradd Sant Alban am gefnogi’r Wythnos Werdd Fawr, mae’n ymddangos eu bod nhw wedi cael llawer o hwyl ac wedi dysgu llawer.

“Mae gofalu am ein planed mor bwysig, oherwydd dim ond un sydd gyda ni.”

Gallwch weld sut mae’r Cyngor wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar newid yn yr hinsawdd a natur

Diwygiwyd Diwethaf: 16/06/2023 Nôl i’r Brig