Dychwelyd yn gynnil i'r ysgol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Mehefin 2023

Gydag wythnosau yn unig i fynd tan ddiwedd y flwyddyn academaidd, efallai bod rhieni’n pryderu eisoes am gost prynu gwisg ysgol newydd ar gyfer tymor yr hydref.

I ddilyn ymlaen o lwyddiant Siop Craff a Chynnil y llynedd pan oedd cyfle i siopa a chyfnewid gwisg ysgol, mae Cyngor Torfaen yn cynnal dau ddigwyddiad arall eleni, a hynny:

  • Ddydd Mercher 16 Awst, 11am - 2pm, ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.
  • Dydd Mawrth 22 Awst, 11am - 2pm yn Theatr y Congress, Cwmbrân

Yn ogystal â gwisgoedd ail law o ansawdd da, bydd dillad chwaraeon, cotiau, bagiau, esgidiau ac offer ysgrifennu am ddim. 

Anogir rhieni i ddod ag eitemau nad yw eu plant yn gwisgo mwyach am eu bod yn rhy fach, a’u cyfnewid am feintiau mwy.

Os hoffech gyfrannu eitemau i’r siop, ewch â nhw i’r mannau canlynol os gwelwch yn dda:

  • Circulate, Blaenafon Uned 14, Stad Ddiwydiannol Gilchrist Thomas, Blaenafon, Pont-y-pŵl NP4 9RL – dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm a dydd Gwener 9am - 4:30pm
  • Cyngor ar Bopeth, Adeiladau Portland, Commercial Street, Pont-y-pŵl – dydd Llun i ddydd Gwener 08:30 – 4:30pm
  • Siop Costar, Y Siopau, 2 Fairwater Cl, Fairwater, Cwmbrân NP44 4TA – dydd Llun i ddydd Iau  10am – 3pm, dydd Gwener 09:30 – 1:30pm
  • Banc Bwyd y Cwm Dwyreiniol, Uned 5, Stad Ddiwydiannol y Pafiliwn, Pontnewynydd, NP4 6NF  -  dydd Mercher a dydd Gwener  9am - 1pm
  • Partneriaeth Garnsychan,  55 Stanley Rd, Garndiffaith, Abersychan, Pont-y-pŵl NP4 7LH – dydd Llun i ddydd Iau 9am - 4:30pm a dydd Gwener 9am - 4pm
  • Eglwys Hill City, Freeholdland Road, Pontnewynydd – Bob dydd Llun 6-7pm a bob dydd Mercher 1-3pm
  • Panteg House, Greenhill Rd, Tref Gruffydd, Pont-y-pŵl NP4 5BE - 10am - 2pm
  • Tasty not Wasty, Eglwys Llanyrafon, NP44 8RA – dydd Mawrth i ddydd Sadwrn - 10:00am - 11:30am
  • Canolfan Gymunedol Bryn Eithin, Leadon Ct, Bryn Eithin, Cwmbrân NP44 5TZ – dydd Llun i ddydd Gwener 1200 - 3pm
  • TRAC2, Siopau Trefddyn, Siop 2, Church Ave, Trefddyn, Pont-y-pŵl NP4 8DH – dydd Llun i ddydd Gwener - 9am - 4pm

Mae angen i bob eitem fod mewn cyflwr da ac yn lân a rhaid eu gollwng yn un o’r mannau uchod erbyn Dydd Llun 24 Gorffennaf 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: “Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd tu hwnt i dalu costau gwisgoedd ysgol, yn enwedig o ystyried y cynnydd mewn costau byw cyffredinol, felly gobeithiwn y bydd y digwyddiad hwn yn helpu i ysgwyddo ychydig o’r pwysau ar sefyllfa ariannol aelwydydd, yn barod ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd.

“Mae nifer o ysgolion eisoes yn trefnu digwyddiadau tebyg ar yr adeg hon o’r flwyddyn, neu mae ganddynt gynlluniau parhaus ar gyfer cyfrannu a chyfnewid. Y siop gyfnewid a chyfrannu fydd y cyfle olaf i gael gwisg ysgol am ddim mewn dau leoliad yn Nhorfaen.

“Fel rhan o ymrwymiad y cyngor i leihau carbon, mae’r digwyddiad hwn hefyd yn gyfle gwych i ailddefnyddio eitemau. Yn enwedig y ffordd y mae plant yn tyfu mor gyflym, a’r dillad yn mynd yn rhy fach mor sydyn. Mae ailddefnyddio dillad yn ffordd wych o daclo newid yn yr hinsawdd am ei fod yn lleihau’r dŵr a’r carbon a ddefnyddir i greu a chludo dillad newydd. Mae hefyd yn lleihau’r angen i anfon cymaint o ddillad i safleoedd tirlenwi.”

Bydd nifer o asiantaethau yn bresennol ar y dydd, yn cynnwys Creu Cymunedau Cryf a Chyngor ar Bopeth Torfaen fydd yn cynnig cyngor a chefnogaeth ariannol, ac ar gyflogaeth a lles.

I gael mwy o wybodaeth am y Siop Ysgol Cynnil, cysylltwch â Chreu Cymunedau Cryf ar 07951 822017.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/06/2023 Nôl i’r Brig