Erlyn am dipio anghyfreithlon

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 14 Gorffennaf 2023

Mae menyw wedi cael ei herlyn am dipio 10 sach du o sbwriel yn anghyfreithlon ar briffordd gyhoeddus.

Cafwyd hyd i’r sachau gyda gwastraff o’r cartref wedi eu gadael ar St. Dials Road, Y Ddôl Werdd, Cwmbrân, ym Medi 2021.

Arweiniodd ymchwiliadau gan Swyddogion Iechyd Amgylcheddol Cyngor Torfaen at olrhain y gwastraff at Loretta Price, Coed Y Garn, Greenmeadow.

Rhoddodd Swyddogion Hysbysiad o Gosb Benodedig i Price, ond, er gwaethaf rhybuddion y gallai methu a thalu arwain at erlyniad, nid thalwyd y ddirwy.

Ar ddydd Mercher, 12 Gorffennaf, ymddangosodd Price, 47 oed, yn Llys Ynadon Casnewydd a phlediodd yn euog i drosedd o dan Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 am fethu yn ei dyletswydd gofal i waredu gwastraff cartref mewn ffordd briodol.

Cafodd Price ddirwy o £300 a’i gorchymyn i dalu gordal dioddefwyr o £34 a chyfraniad o £400 at gostau’r Cyngor.  Y cyfanswm y mae’n rhaid iddi dalu yw £734.  

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Does dim esgus dros dipio yn ein cymunedau.  Gall gwastraff nad yw’n cael ei waredu’n gywir fod yn beryglus i’r cyhoedd, yn enwedig plant ac anifeiliaid, a gall niweidio’r amgylchedd.

“Nid ydym yn fodlon goddef tipio, ac rwy’n gobeithio y bydd yr erlyniad yma’n danfon neges glir y bydd y rheiny sy’n ymddwyn mor anghyfreithlon yn wynebu canlyniadau eu hymddygiad.

“Rydym yn annog trigolion i gael gwared ar eu gwastraff mewn ffordd gyfrifol a chymryd mantais o wasanaethau gwastraff amrywiol y Cyngor.”

 Gallwch wneud adroddiad am dipio trwy wefan y Cyngor, trwy lawrlwytho ap Gwasanaethau Cyngor MyTorfaen, neu drwy ffonio 01495 762200

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 14/07/2023 Nôl i’r Brig