Dathlu dangos ar y drysau.

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023

Mae dros hanner y busnesau bwyd yn Nhorfaen yn dangos y lefel uchaf o lendid, yn ôl y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.  

Mae gan bum deg naw o fusnesau sgôr hylendid o 5, gyda 95 y cant â sgôr o dri neu uwch.

Daw hyn wrth i Gyngor Torfaen nodi 10 mlynedd ers i arddangos Sgoriau Hylendid Bwyd fod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i orfodi arddangos sgoriau hylendid bwyd mewn mannau amlwg fel drysau blaen, mynedfeydd neu ffenestri.

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn cael ei ddathlu fel un o lwyddiannau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol y wlad yn y 21ain ganrif.

Y bwriad yw galluogi’r cyhoedd i wneud dewisiadau gwybodus ac annog busnesau bwyd i roi blaenoriaeth i safonau hylendid ardderchog.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd a’r Economi: “Mae’r sticeri du a gwyrdd trawiadol sydd i’w gweld mewn bwytai, caffis, archfarchnadoedd ac ar-lein yn rhoi sicrwydd i bobl fod busnesau yn Nhorfaen yn cymryd hylendid a safonau bwyd o ddifri. 

“Mae sticeri hylendid bwyd yn ffordd syml a thryloyw o ddangos canlyniadau’r arolwg hylendid gan ein swyddogion yn yr awdurdod lleol.  Mae’r cynllun yn rhoi hyder bod bwyd yn cael ei baratoi a’i gyflwyno mewn ffordd ddiogel a glân, ac mae’r busnes yn bodloni gofynion cyfreithiol hylendid bwyd.”

Gall pob busnes gael y sgôr uchaf o 5 – neu ‘da iawn’ – trwy wneud yr hyn sy’n ofynnol o dan gyfraith bwyd.

Mae safonau hylendid mewn busnesau bwyd wedi gwella oherwydd y cynllun gorfodol, gyda 96 y cant o fusnesau yng Nghymru nawr yn arddangos sgôr o 3 neu uwch.

Mae ymchwil wedi dangos bod busnesau â sgoriau uwch yn llai tebygol o fod yn gyfrifol am achosion o salwch trwy fwyd.

Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru: “Rydym yn falch o fod yn cynnal y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru.  Mae Awdurdodau Lleol yn hanfodol i lwyddiant y cynllun. Trwy eu hymgysylltiad rheolaidd gyda busnesau bwyd, maen nhw wedi chwarae rôl allweddol wrth godi safonau hylendid i’r man y maen nhw heddiw. Mae’r cynllun yn galluogi pobl i ddewis ble i brynu a dewis y busnesau hynny sydd o ddifri am hylendid bwyd.”

Gofynnwch am y Sgôr Hylendid Bwyd, edrychwch am y sticer neu gwiriwch ar-lein cyn prynu bwyd: ratings.food.gov.uk

Gall busnesau bwyd newydd neu gyfredol yn Nhorfaen, sydd ag ymholiadau diogelwch bwyd, ofyn am gyngor gan wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor.

I wybod mwy, cysylltwch â Chyswllt Busnes Torfaen trwy 01633 648735 neu businessdirect@torfaen.gov.uk

 

Diwygiwyd Diwethaf: 29/11/2023 Nôl i’r Brig