Erlyn dyn am Dipio Sbwriel ar Fynydd Twmbarlam

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Ionawr 2024
fly tipping

Mae dyn o Gaerffili wedi cael ei erlyn ar ôl i ryw 10 sach o sbwriel gan eu tipio mewn man harddwch lleol yn Nhorfaen.   

Cafwyd hyd i’r sbwriel, a oedd yn cynnwys derbynebau, gwastraff bwyd a deunyddiau ailgylchu, ar Fynydd Twmbarlam yng Nghwmbrân Uchaf gan aelod o’r cyhoedd yn Hydref 2022, a dywedodd y person hwnnw am y sbwriel wrth wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor.   

Yr wythnos ddiwethaf, yn Llys Ynadon Casnewydd, plediodd Mr Joe Roberts o 31 Hafodathen Road, Llanhiledd, yn euog o fethu â chymryd camau rhesymol i gael gwared ar wastraff mewn ffordd briodol.   

Dangosodd ymchwiliadau gan Swyddogion Iechyd Amgylcheddol fod y sbwriel yn eiddo i Mr Roberts.  Pan ofynnwyd iddo gan swyddogion sut y cafodd y sbwriel ei dipio, honnodd ei fod wedi cyflogi unigolyn anhysbys i gael gwared ar wastraff o’r cartref, heb iddo wirio a oedd ganddyn nhw’r drwydded angenrheidiol.   

Oherwydd i Mr Roberts fethu â gwirio a oedd yr unigolyn yn berson dibynadwy, ac i’w sbwriel gael ei dipio’n anghyfreithlon, cafodd orchymyn i dalu cyfanswm o £1,724.05 gan y Llys am fethu yn ei ddyletswydd gofal o dan adran 34(2A) Deddf Gwarchodaeth Amgylcheddol 1990.   

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’r achos yma’n ein hatgoffa ni am bwysigrwydd arferion cywir wrth gael gwared ar wastraff, a gwirio, pan fyddwn yn ymddiried mewn trydydd partïon i gael gwared ar wastraff, bod ganddyn nhw drwydded briodol.   

“Mae gwarchod yr amgylchedd yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd, ac mae’n rhaid i unigolion gymryd camau rhesymol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei drin a’i waredu’n briodol.   

“Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol ddifrifol, ac mae’n costio’n sylweddol i drethdalwyr lanhau.  Mae i’w weld yn hyll a gall niweidio’n cymunedau, bywyd gwyllt a’r amgylchedd.   

“Hoffwn gymeradwyo gwaith ardderchog Swyddogion Iechyd Amgylcheddol y Cyngor wrth ddod â’r achos yma i’r Llys a chael canlyniad briodel.”   

Dywedwch am dipio anghyfreithlon yn y fwrdeistref   

Diwygiwyd Diwethaf: 22/01/2024 Nôl i’r Brig