Gwaith paratoi ar gyfer cyfyngiad cyflymder 20mya newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2023

Bydd gwaith i osod arwyddion ffyrdd newydd yn dechrau’r wythnos nesaf cyn cyflwyno cyfyngiad cyflymder 20mya newydd. 

O 17 Medi 2023, bydd y cyfyngiad cyflymder rhagosodedig mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru yn gostwng o 30mya i 20mya.  Bydd hyn yn cynnwys heolydd ble mae goleuadau stryd wedi eu gosod heb fod yn fwy na 200 llath ar wahân.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth i wneud heolydd yn fwy diogel, lleihau nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, annog mwy o bobl i gerdded a seiclo, gwella iechyd a lles a diogelu’r amgylchedd i genedlaethau’r dyfodol.

O’r wythnos nesaf ymlaen, bydd gwaith i osod pyst ac arwyddion yn dechrau yng Nghwmbrân a disgwylir i hyn gymryd chwe wythnos.

Bydd gwaith ar ffyrdd ym Mhont-y-pŵl, Blaenafon a Phonthir yn dechrau yng nghanol Awst a bydd yn cael ei gwblhau erbyn 17 Medi.  Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yr arwyddion newydd i gyd yn cael eu gorchuddio tan y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn dod i rym a bydd hen arwyddion 30mya a marciau ar yr heol yn cael eu tynnu i ffwrdd yn nes at y diwrnod gweithredol.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Fel cyngor, rydym yn gwneud pob dim y gallwn y sicrhau bod gyrwyr yn ymwybodol o’r cyfyngiad cyflymder newydd a bod seilwaith y ffyrdd yn adlewyrchu’r cyfyngiad cyflymder newydd cyn gynted ag y daw i rym. 

"Er y bydd hyn yn newid sylweddol i yrwyr, mae’n bwysig cofio y bydd y cyfyngiad cyflymder yn gwneud ffyrdd yn fwy diogel i ddefnyddwyr eraill fel seiclwyr a cherddwyr, gan gynnwys plant, pobl ag anableddau, pobl hŷn a rhieni gyda phramiau neu gadeiriau gwthio." 

Tra bydd mwyafrif yr heolydd 30mya rhagosodedig yn newid yn awtomatig i 20mya, mae’r cyngor wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am 36 o eithriadau a fydd yn aros yn 30mya am 18 mis tra bod adolygiad yn cael ei gynnal. Gallwch weld y rhestr o eithriadau 30mya ar ein gwefan.

Amcangyfrifir y bydd 20mya yn ychwanegu dim ond un munud y filltir i deithiau ceir. Am fwy o wybodaeth am y cyfyngiad cyflymder newydd, ewch at y wybodaeth am 20mya ar ein gwefan.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am newid o deithiau mewn ceir i gerdded neu seiclo, ewch at y wybodaeth am deithio llesol ar ein gwefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 03/11/2023 Nôl i’r Brig