Mwy o ysgolion i elwa ar bŵer solar

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Tachwedd 2022

Mae pedair ar ddeg o ysgolion yn ardal Torfaen i dderbyn gosodion ffotofoltaïg solar (PV) diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Mae gan wyth o ysgolion yn Nhorfaen PV wedi ei osod eisoes – Ysgol Gynradd y Dafarn Newydd; ysgol Gynradd Coed Efa, Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam; Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim; Ysgol Panteg; Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer; Ysgol Uwchradd Croesyceiliog; adeilad newydd yn Ysgol Gyfun Gwynllyw

Mae’r PV wedi darparu oddeutu 400,000kW o drydan, gan arbed swm yn cyfateb i hyd at 150 tunnell o ddeuocsid carbon ac osgoi costau ynni a dybir o ryw £500,000 dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Bydd y PV newydd yn cyfrannu at amcanion datgarboneiddio’r Cyngor ynghyd a rhoi arbediad ynni hirdymor posibl ar gyfer pob ysgol.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: “Mae’n wych y bydd mwy o ysgolion yn gallu cynhyrchu eu hynni eu hunain, ac mae’n stori wych i nodi Wythnos Hinsawdd Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd pob ysgol yn gallu gwneud yr un fath yn y dyfodol.

“Rydym yn ymroddedig fel Cyngor i leihau ein heffaith ar newid yn yr hinsawdd a dyma dim ond un o’r prosiectau niferus rydym yn gweithio arnynt.”

Dywedwch wrthym beth ydych yn ei feddwl am gynllun y Cyngor o amddiffyn yr amgylchedd lleol a gwella cynaliadwyedd yma: https://getinvolved.torfaen.gov.uk/the-county-plan

Dysgwch sut y mae Cyngor Torfaen yn bwriadu gwella cynaliadwyedd dros y 5 mlynedd nesaf yma.

Dysgwch sut y mae Cyngor Torfaen yn delio gyda newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng natur drwy chwilio am #MeithrinNaturTorfaen a #TorriCarbonTorfaen ar y cyfryngau cymdeithasol.

Diwygiwyd Diwethaf: 26/06/2023 Nôl i’r Brig