System bwcio ceir CAGT yn dod i ben

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 7 Ionawr 2022

Ni fydd angen i yrwyr ceir drefnu lle ymlaen llaw i ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ o’r wythnos nesaf ymlaen. 

Bydd y system bwcio yn dal i fodoli dros y penwythnos, ond rhaid trefnu erbyn canol dydd ar ddydd Gwener. 

Cyflwynwyd y system pan ail-agorodd y safle yn y Dafarn Newydd,  Pont-y-pŵl ym mis Mai 2020, ar ôl y cyfnod clo cyntaf. 

Ddiwedd y llynedd, gofynnwyd i drigolion os oeddynt eisiau cadw’r system, neu ei dileu, a phleidleisiodd 60 y cant i gael gwared ohoni.

O ddydd Llun, Ionawr 10, bydd trigolion yn gallu mynd i’r safle, er y bydd angen i yrwyr faniau ac ôl-gerbydau drefnu o hyd.  

Bydd mesurau iechyd a diogelwch yn parhau yn wyneb y pandemig parhaus – bydd disgwyl i ymwelwyr gadw pellter cymdeithasol ac ni fydd y staff yn gallu helpu i ddadlwytho cerbydau.

Hefyd, bydd uchafswm o 16 cerbyd ar y safle ar unrhyw adeg.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: "Fel y dywedasom, roedd dyfodol y system bwcio yn nwylo’r trigolion, ac mae’r canlyniadau wedi siarad.

"Rydym yn parhau i fonitro Covid a’r straen newydd ac os cawn ein cyfarwyddo gan Lywodraeth Cymru i newid pethau, yna bydd yn rhaid i ni.

"Mae ein timau wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y system bwcio yn dod i ben o ddydd Llun, ond bydd cyfyngiad ar y nifer o geir a ganiateir ar y safle er mwyn parhau i gadw staff ac ymwelwyr yn ddiogel, felly gall hynny arwain at giwiau y tu allan i’r safle ar adegau prysur, fel y penwythnosau."

Oriau agor CAGT yn y gaeaf yw 10am - 4pm, saith diwrnod yr wythnos, gyda’r cerbydau olaf yn cael mynd i’r safle am 3.45pm.

Mae oriau agor yr haf yn cychwyn ar ôl troi’r cloc yn ôl ym mis Mawrth.

Gofynnir i ymwelwyr ddidoli eu gwastraff a’u deunydd ailgylchu cyn mynd i’r safle i leihau faint o amser sydd angen iddyn nhw ei dreulio yno. 

Bydd gofyn i unrhyw un gyda gwastraff mewn sach ddu agor y bagiau i ddangos nad ydynt yn cynnwys unrhyw beth y gellid ei ailgylchu. 

I gael gwybod mwy am yr hyn y gellir ei ailgylchu yn y ganolfan, a’r polisi didoli bagiau, ewch i’n gwefan .   

Gellir rhoi eitemau o ansawdd da i’r Siop Ailddefnyddio Steelhouse yn agos at y CAGT.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/01/2022 Nôl i’r Brig