Mwy diogel yn 20
O 17 Medi 2023, bydd y terfyn cyflymder cyffredinol mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru yn gostwng o 30mya i 20mya.
Mae'r rhain yn cynnwys ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi eu gosod hyd at 200 llath ar wahân.
Cafodd y ddeddfwriaeth ei chyflwyno i wneud y ffyrdd yn fwy diogel, lleihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, annog mwy o bobl i gerdded a seiclo, i wella iechyd a lles ac i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gofynnwyd i awdurdodau lleol nodi ffyrdd neu rannau o ffyrdd a ddylai, yn eu barn nhw barhau i fod yn 30mya.
Mae Cyngor Torfaen wedi gwneud cais am 36 o eithriadau ar draws y fwrdeistref.
Bydd gorchmynion traffig dros dro, a elwir yn Orchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol, yn cael eu gweithredu ar hyd y rhain o fewn wythnos o gael eu hysbysebu a bydd arwyddion 30mya yn cael eu codi.
Gall y gorchmynion fod ar waith am 18 mis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd y Cyngor yn asesu a yw’r penderfyniad i gadw’r terfyn cyflymder yn 30mya yn gweithio.
Gallwch weld y rhestr o eithriadau 30mya yma.
Diwygiwyd Diwethaf: 09/01/2024
Nôl i’r Brig