Cyngor ar Ddiogelwch ar y Ffyrdd

Rydym yn cyflwyno llawer o’n haddysg ar ddiogelwch ar y ffyrdd ar y cyd ag ysgolion Torfaen. Mae ein staff diogelwch ar y ffyrdd yn:

  • darparu cynlluniau gwersi a hyfforddiant ar gyfer staff addysgu ble’n briodol, i alluogi’r ysgolion i addysgu agweddau ar ddiogelwch ar y ffyrdd i ddisgyblion
  • gweithio’n uniongyrchol gyda disgyblion wrth gynnal hyfforddiant ar gyfer cynllun Kerbcraft a gweithdai diogelwch ar y ffyrdd eraill.
  • cefnogi ysgolion sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau cenedlaethol, er enghraifft deunyddiau ar gyfer wythnos/mis Cerdded i’r Ysgol
  • hyrwyddo cystadlaethau diogelwch ar y ffyrdd addysgol
  • cefnogi mentrau diogelwch partneriaeth er enghraifft ‘Crucial Crew’ mewn ysgolion cynradd a ‘DnA’ mewn ysgolion uwchradd.
  • goruchwylio hyfforddiant beicio a hyfforddiant i gerddwyr ym mlwyddyn 6 (gwers Bontio)

Kerbcraft  - hyfforddiant cerdded i blant

Mae Kerbcraft yn rhoi hyfforddiant ymarferol wrth ymyl y ffyrdd i ddisgyblion ysgolion cynradd, er mwyn addysgu’r sgiliau iddynt i ddefnyddio’r rhwydwaith ffyrdd yn ddiogel, i oleuo arferion da ac i ostwng y perygl o anafiadau personol. Cefnogir y cynllun Kerbcraft yn llwyr gan Lywodraeth Cymru.

Y nod yw cyflwyno Kerbcraft i bob disgybl oed ysgol gynradd yn Nhorfaen ar yr amod fod rhieni wedi rhoi caniatâd i’w plant gymryd rhan.

Plant a beicio

Rydym eisiau i bob plentyn sy’n dewis seiclo i wneud hynny’n ddiogel. Rydym yn cynnig y cynllun hyfforddiant hyfedredd beicio clasurol i bob ysgol gynradd yn Nhorfaen. Fel arfer, cyflwynir y cynllun hwn i bob disgybl ym mlwyddyn 6 neu weithiau blwyddyn 5. Mae’r staff diogelwch ar y ffyrdd yn cynnig cymorth i’r ysgol i alluogi’r ysgol i addysgu’r sgiliau beicio sylfaenol i’r plant o fewn amgylchedd diogel yr iard chwarae. Ar y cychwyn cynhelir gwiriad diogelwch rhad ac am ddim ar y beiciau. Ar ddiwedd yr hyfforddiant, bydd y staff diogelwch ar y ffyrdd yn gwirio sgiliau beicio’r plant, yn rhoi adborth ar lefel cymhwysedd pob plentyn ac yn rhoi  tystysgrif briodol i bob plentyn.

Os hoffech weld os  yw’r cynllun hwn ar gael ar gyfer eich plentyn chi, holwch ysgol eich plentyn.

Gwersi pontio

Yn ystod eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd, rydym yn ymgysylltu â disgyblion blwyddyn 6 er mwyn tynnu sylw at y materion Diogelwch ar y Ffyrdd y mae plant yn eu hwynebu pan fyddant yn dechrau ar eu siwrnai newydd i’r ysgol uwchradd ym mlwyddyn 7. Rydym yn mynd yn ôl dros wybodaeth a negeseuon defnyddiol ynghylch diogelwch ar y ffyrdd ac yn anelu at gael plant i feddwl am yr hyn sy’n wahanol am eu siwrnai i’r ysgol uwchradd ym mis Medi a’r peryglon posib – a chynllunio’n briodol.

Canllawiau i seddau ceir plant/babanod

Mae’r canllawiau diweddaraf ynglŷn â seddau ceir plant ar gael yn rhad ac am ddim o’r swyddfa diogelwch ar y ffyrdd. Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth er mwyn i chi helpu’ch hun i wirio bod sedd car eich plentyn wedi cael ei gosod yn gywir.

Diwygiwyd Diwethaf: 30/08/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Highways & Traffic

Email: highways.transportation@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig