Gwasanaethau Rheilffordd
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am drenau, cysylltwch ag Ymholiadau’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50, neu ewch i wefan y Rheilffordd Genedlaethol. Neu, ewch i wefan Trainline.
Gorsaf Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd
Mae disgwyl y bydd prosiect i drawsnewid Gorsaf Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd, sydd 1.5 milltir o ganol tref Pont-y-pŵl, yn cael ei gwblhau yn haf 2023.
Mae'r cynllun £7.1m yn cynnwys gwelliannau sylweddol i’r orsaf a’r platfform, yn ogystal â phont droed a lifft o'r cyfleusterau parcio newydd
Bydd y cyfleuster parcio a theithio integredig yn cynnwys 11 man parcio hygyrch, 3 ohonynt â mannau gwefru CT, 11 man gwefru CT, 129 o fannau parcio cyffredinol, 3 man gollwng neu fannau tacsi, 1 cilfan fysiau, 6 cilfan i feiciau modur ac 8 man diogel i feiciau, yn ogystal â’r 20 o fannau beiciau sydd eisoes yno.
Mae Cyngor Torfaen yn cyfrannu £1.5m i’r prosiect, a Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cyfrannu £5.6m. Dyma fydd un o’r cyntaf o gynlluniau Metro Plus Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gael ei gwblhau.
Nod y prosiect yw cynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r orsaf ac mae’n atgyfnerthu’r achos am wasanaethau mwy aml, gan gynnig mwy o dwf economaidd yn yr ardal.
Mi fydd hefyd yn annog mwy o deithio llesol a helpu trigolion nad ydynt yn berchen ar geir, i gael hyd i waith, hyfforddiant neu addysg.
Gorsaf Drenau Cwmbrân
Mae gorsaf drenau Cwmbrân hanner milltir y tu allan i ganol tref Cwmbrân.
Mae swyddfa docynnau a pheiriant tocynnau, caffi a thoiledau â chyfleusterau newid cewynnau.
Mae 76 o fannau parcio yn y maes parcio a lle i storio chwe beic. Mae safle tacsis y tu allan i’r orsaf.
Diwygiwyd Diwethaf: 24/04/2023
Nôl i’r Brig