Adfywio Cwmbrân

Mae Cwmbrân wedi'i lleoli yng nghornel de-ddwyrain Cymru, tuag ugain milltir o'r brifddinas, Caerdydd. Mae'n dref unigryw yn y rhanbarth, gan mai hon yw'r unig dref newydd ddynodedig yn ne Cymru. Ers ei dynodi, mae'r dref wedi tyfu a datblygu ac, erbyn hyn, mae'n lleoliad ffyniannus sydd â bron i 50,000 o drigolion.

Ym 1949, dynododd y Gweinidog Cynllunio Gwlad a Thref ar y pryd, John Silken, ardal o ryw 31,000 erw o gwmpas pentref Cwmbrân i fod y dref newydd gyntaf yng Nghymru. Yn wahanol i'r genhedlaeth gyntaf o drefi newydd, nod Cwmbrân oedd darparu tai ac ystod o gyfleusterau i'r rhai a oedd wedi'u cyflogi yn y diwydiant a oedd eisoes yn bod, ond a oedd yn byw mewn tai gwael yn y cymoedd cyfagos.

Rhoddwyd uwchgynllun ar waith i gyflawni'r amcan ar gyfer y dref. Fodd bynnag, wrth i'r dref ddatblygu, bu rhaid cynyddu maint rhagamcanol y dref a chafodd llawer o ddelfrydau'r cynllun eu gwanhau ar ôl cymeradwyo'r ehangiad yn y de-orllewin ym 1977.

Mewn gwirionedd, oherwydd natur gynlluniedig Cwmbrân, ychydig iawn o gyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer gwaith datblygu newydd yn y dref. Mae hyn wedi arwain at bwysau datblygu dwys ar gyrion Cwmbrân gan adeiladwyr tai a datblygwyr.

Fodd bynnag, nid oedd y camau datblygu cynnar heb eu trafferthion, er enghraifft yn aml, ni fodlonwyd priodoleddau a dyluniad esthetig oherwydd cyflymder y gwaith datblygu. Enillodd y tai un gogwydd cyfoes yng Nghoed Efa lawer o wobrau am eu dyluniad gwreiddiol, ond nid yw'n cael ei ystyried yn ffasiynol bellach. Er gwaethaf yr anawsterau hyn, mae llawer o'r egwyddorion gwreiddiol yn gyflawn o hyd, fel y lefel uchel o fannau hamdden, agored a darparu cyfleusterau cymunedol a manwerthu yng nghanol pob un o'r cymdogaethau gwreiddiol.

Er y bu problem gyda thai yng Nghwmbrân, mae diwydiant a chyflogaeth yn y dref wedi ffynnu. Mae gan Gwmbrân sylfaen weithgynhyrchu gadarn, â chryfderau penodol mewn peirianneg, ynghyd â chynhyrchu cerbydau modur a chydrannau electronig. Yn gynyddol, mae diwydiannau TG a rhai sy'n ymwneud â gwybodaeth yn cael eu targedu. Parc Llantarnam, i'r de o ganol y dref, yw un o'r lleoliadau diwydiannol mwyaf ei fri yn y rhanbarth. Mae'n gartref i nifer o gwmnïau blaenllaw, fel Loseley, Hempel, a Spear Europe.

Mae Cwmbrân hefyd wedi ffynnu o fod â chraidd manwerthu bywiog. Mae gan y Ganolfan Siopa ganolfan amlbwrpas i gerddwyr yn unig, sydd â marchnadoedd siopa dan do. Mae dros 170 o allfeydd manwerthu yn gorchuddio arwynebedd o 700,000 troedfedd sgwâr, gan gynnwys nifer o fanwerthwyr poblogaidd y stryd fawr, bwytai, theatr a sinema. Yn unol â hynny, caiff y dref ei hystyried yn ganolfan is-ranbarthol bellach, a'r bwriad yw y caiff y ffocws hwn ar fanwerthu ei gynyddu trwy adfywio ochr ddwyreiniol y dref.

Nawr, 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae angen adnewyddu rhannau o'r dref. Trwy amrywiaeth o bartneriaethau cyhoeddus a phreifat, nod Tîm Prosiect Cwmbrân yw gosod strategaeth 15 mlynedd ar gyfer adfywio a datblygu'r dref newydd, a dechrau ei rhoi ar waith.

Am ragor o wybodaeth am adfywio Cwmbrân, cysylltwch ag Adfywio Trefol ar 01633 648072.

Enghreifftiau o Brosiectau yng Nghwmbrân

Y Gamlas

Mae'r gamlas yn ffocws ar gyfer prosiectau eraill a ariennir gan Ewrop hefyd, gan gynnwys prosiect Crosscut Interreg. Lluniwyd Cynllun Rheoli Camlas cynhwysfawr trwy Crosscut. Mae'r astudiaeth hon yn edrych ar ecoleg, hamdden, mynediad, tirwedd, addysg a dehongli'r gamlas a sut y gellir ei rheoli mewn modd cynaliadwy.

NEWTASC

Mae Torfaen yn bartner arweiniol mewn prosiect trawswladol a gyflwynwyd dan Interreg 111B (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop). Mae'r prosiect yn darparu deunydd gwaelodlin ac yn caniatáu gweithredu cynlluniau peilot bach, fel y gwelliannau amgylcheddol yn Fairwater. Dechreuodd y prosiect yn 2003 ac mae'r trefi newydd sydd ynghlwm wrtho yn Lloegr, yr Iseldiroedd a Ffrainc.

Uwchgynllun Canol Tref Cwmbrân

Bu canol tref Cwmbrân yn brif ffocws ar gyfer twf i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ers iddi gael ei dynodi'n dref newydd ym 1949. Yn 2003, dechreuodd y Cyngor archwilio defnydd, pwysau a chyfleoedd canol y dref, ynghyd â barn a dyheadau rhanddeiliaid er mwyn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer canol y dref. Penodwyd yr ymgynghorwyr, GVA Grimley, i gynorthwyo â'r dasg hon ac, yn Chwefror 2005, cyhoeddodd adroddiad yn dwyn y teitl 'Datblygu Canol Tref Cwmbrân yn y Dyfodol - Papur Opsiynau Polisi Cynllunio Datblygu Lleol Torfaen'.

Ar ôl ymgynghori ar y Papur Opsiynau, mae Cyngor Torfaen bellach yn gweithio ar Gynllun Datblygu Lleol Cyn-adneuo o'r enw 'Cynllun Drafft ar gyfer Canol Tref Cwmbrân', a fydd yn sicrhau y caiff canol y dref ei ddatblygu mewn modd cyfannol a chynaliadwy. Bydd y ddogfen yn nodi'r dulliau defnyddio tir sy'n dderbyniol mewn ardaloedd penodol ac yn rhoi cyngor datblygu cyffredinol, fel ystyriaethau dylunio. Bydd y ddogfen hon yn ffurfio rhan o Gynllun Datblygu Lleol Torfaen. Er mwyn hwyluso'r gwaith o ddatblygu canol y dref, mae'r Cyngor yn paratoi dogfen y Fframwaith Cyn-adneuo cyn paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol i'w Adneuo. Wedi i'r Fframwaith Drafft gael ei gymeradwyo gan y Cabinet, mae cyfnod ymgynghori o chwe wythnos wedi'i gynllunio yn ystod haf 2007.

Canolfannau Siopa Lleol

Mae'r canolfannau siopa wedi chwarae rhan bwysig yn y gymuned leol yng Nghwmbrân. Fodd bynnag, mae'r adeiladau'n dangos eu hoed. Mae'r Cyngor wedi comisiynu astudiaeth o bob ardal i amlygu cyfleoedd a darparu uwchgynllun ar gyfer eu gwella yn y dyfodol. Bydd yr astudiaeth yn rhoi syniadau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol, yn ogystal ag arweiniad dylunio er mwyn sicrhau ymagwedd gydlynol tuag at ddatblygu pob canolfan leol.

Grŵp Gweithredol Cwmbrân

Partneriaeth a sefydlwyd gyda Chynghorau Cymuned Cwmbrân a Chroesyceiliog a Llanyrafon i gyflwyno rhaglen o brosiectau adfywio lleol a gwelliannau amgylcheddol sy'n helpu i gyflawni Strategaeth Adfywio Torfaen.

Os ydych yn fusnes sydd angen cyngor neu gymorth busnes ehangach, cysylltwch â Chyswllt Busnes Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Adfywio Trefol

Ffôn: 01633 648072

Nôl i’r Brig