Trigolion yn ymddangos mewn ffilm hanesyddol

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 22 Ionawr 2024
Historical film premiere

Mae prosiect cymunedol sy’n archwilio ac yn dathlu cymeriadau allweddol a helpodd i siapio tref Blaenafon yn ystod cyfnod Victoria, wedi’i droi’n ffilm. 

Gyda chefnogaeth Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon, mae’r ffilm yn dod â phortreadau hanesyddol sydd i’w gweld yn amgueddfa gymunedol Neuadd y Gweithwyr Blaenafon, yn fyw, yn ogystal â straeon llai adnabyddus a chymeriadau dychmygol y bobl ifanc oedd yn byw yn yr ardal.

Aeth pobl leol, yn cynnwys pobl ifanc a grwpiau, ati i ymchwilio, ysgrifennu ac ymddangos yn y ffilm ‘Hidden Histories of Blaenavon’. Mae’n cynnwys 11 o gymeriadau hanesyddol, gan gynnwys yr ysbrydoledig William Lewis Cook OBE, a ddechreuodd weithio mewn pwll glo lleol yn 14 oed, a mynd ymlaen i fod yn Prif Swyddog Cymodi yng Ngweinyddiaeth Tanwydd a Phŵer y DU.

Meddai Esmie, sydd ers hynny wedi dod yn Llysgennad Ieuenctid Treftadaeth y Byd: “Fe wnes i chwarae rhan merch o’r enw Sian Price. Nid oedd hi’n gallu mynd i'r ysgol am fod yn rhaid iddi helpu ei mam i lanhau'r tŷ. Fe wnes fwynhau’r cyfle i wisgo i fyny mewn hen ddillad pan oedd hi’n amser ffilmio.”

Cafodd y ffilm ei dangos yn Neuadd y gweithwyr Blaenafon am y tro cyntaf ym mis Hydref ac erbyn hyn gellir ei gwylio ar wefan Ymweld â Blaenafon.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol, Yr Economi a Sgiliau: “Mae sgript y ffilm yn hyfryd, a phleser oedd gwylio pobl leol yn dod â’r cymeriadau hyn yn fyw.

“Mae’n arbennig o deimladwy i weld faint y gwnaeth addysg wella bywydau plant, fel yr eglurir gan rai o’r cymeriadau ffuglennol.

"Mae’r prosiect wedi helpu i gysylltu gwahanol genedlaethau ai grwpiau lleol yn ogystal â’r gorffennol a’r presennol.”

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae gan dreftadaeth rôl unigryw i’w chwarae wrth ddod â phobl at ei gilydd mewn man lle maent yn byw, yn gweithio ac yn ymweld ag ef, ac rydym yn cynyddu’r cysylltiad sydd gan bobl â threftadaeth lleoedd lleol trwy dargedu’r buddsoddi.

"Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac yn dymuno ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Ein gweledigaeth yw bod treftadaeth yn cael ei gwerthfawrogi, ein bod yn gofalu amdani a’i chynnal i bawb yn y dyfodol.

“Mae Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon yn helpu i drawsnewid yr ardal leol a gwella cyflwr treftadaeth ym Mlaenafon yn ogystal â hybu balchder y gymuned yn yr amgylchedd lleol. Mae’n brosiect yr ydym yn falch i’w ariannu."

Ychwanegodd Gareth Davies, Cadeirydd Bwrdd RhTT Blaenafon: “Rwy'n falch iawn bod y ffilm hon, sydd o ansawdd uchel, ar gael ar Wefan Ymweld â Blaenafon.

"Mae’n ychwanegiad pwysig i’w groesawu at hanes cymdeithasol, cyfoethog Blaenafon, a bydd yn annog ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd i ddysgu mwy am yr hanes cyfoethog sydd o’n cwmpas.  Y mae hefyd yn un o’r canlyniadau pwysig a ddeilliodd o Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon oedd yn llwyddiant aruthrol.”

Dysgwch mwy am Raglen Llysgenhadon Ifanc Treftadaeth y Byd.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/01/2024 Nôl i’r Brig