Ffoadur o Wcráin yn diolch i drigolion

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 11 Ionawr 2024
Nataliia and Mike2

Mae ffoadur o Wcráin a symudodd i Dorfaen i ddianc rhag y rhyfel â Rwsia, wedi diolch i drigolion lleol am y croeso a gafodd.

Symudodd Nataliia Tatarenko i Bont-y-pŵl gyda’i mab wyth mlwydd oed, Matvii, a’i mam-yng-nghyfraith, yn rhan o gynllun noddwyr y DU. 

I ddechrau, roedd Natallia a’i mab, o Kyiv, wedi dianc i ran arall o Wcráin wedi i luoedd Rwsia heidio i’r wlad ym mis Chwefror 2022.

Ond, ym mis Mawrth 2022, rhannodd neges ar y cyfryngau cymdeithasol i geisio dod o hyd i letywr ym Mhrydain a chysylltodd teulu a oedd yn byw ym Mhont-y-pŵl â hi.

Wrth siarad ar gyfres podlediadau Valleys Voices, fe ddywedodd Nataliia, sy’n 43 oed, iddynt gael croeso gan y gymuned leol unwaith iddynt gyrraedd.

“Pan gyrhaeddon ni, fe ddaethon ni o hyd i flodyn haul o flaen y tŷ ac roedd popeth tu mewn yn las ac yn felyn fel teyrnged i liwiau ein baner," meddai.

"Cawson ni groeso cynnes a dweud y gwir, ac rwy’n teimlo ein bod ni’n ffodus iawn i fyw yn y rhan hon o Gymru.

"Fe ddechreuodd bobl ddod â theganau i Matvii, a holi beth oedd ei angen arnom. Fe ddywedais i nad oedd gen i esgidiau a dillad ac roedd pobl yn holi pa faint ac yn dod â nhw i ni. Roedd pawb yn gefnogol iawn. Roedd pobl yn gyfeillgar dros ben."

Yr haf diwethaf, aeth Nataliia a Matvii i Wcráin ar ymweliad ac mae Nataliia wedi dogfennu eu siwrnai mewn podlediad Valleys Voices â dwy ran. Gallwch wrando arno ar Spotify, Apple iTunes neu wefan Valleys Voices.

Ym mis Rhagfyr 2023, symudodd Nataliia yn ôl i Wcráin gyda Matvii i gael bod gyda’i gŵr, Oleg, unwaith eto.

Ers i’r rhyfel ddechrau, mae 115 o ffoaduriaid o Wcráin wedi symud i Dorfaen yn rhan o’r cynllun noddwyr unigol neu’r cynllun uwch-noddwr.

Dywedodd Chris Hunt, Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol: "Mae cymunedau Gorllewin Gwent wedi bod yn rhan o symudiad cenedlaethol neilltuol i gefnogi’r rheiny sydd wedi cael eu dadleoli’n orfodol.

"Mae trigolion lleol wedi agor eu cartrefi, gan gynnig diogelwch i deuluoedd o Wcráin, ac wedi eu helpu i ailadeiladu eu bywydau. Mae hyn yn dyst i ewyllys da a haelioni ein cymunedau lleol."

Tîm Cydlyniant Gwent sy’n cynhyrchu podlediad Valleys Voices, ac mae’r tîm wedi’i leoli o fewn Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/01/2024 Nôl i’r Brig