Arbrawf compost am ddim

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 4 Medi 2023

Mae trigolion yn cael cynnig compost am ddim fel rhan o arbrawf gan Gyngor Torfaen i ailddefnyddio gwastraff gwyrdd sy’n cael ei gwastraff o gartrefi lleol.  

Mae rhyw 3500 tunnell fetrig o wastraff gwyrdd yn cael ei gasglu wrth ymyl y ffordd pob blwyddyn ac yn cael ei gludo i Gasnewydd i’w droi’n gompost di-fawn. 

Mae’r cyngor nawr yn rhoi tro ar ffordd o ddosbarthu’r compost am ddim i drigolion. 

Roedd yn syniad gan Rwydwaith Llysgenhadon Hinsawdd, fforwm i drigolion sydd â diddordeb mewn cefnogi eu cymunedau i fod yn sero carbon net erbyn 2050. 

Mae troi gwastraff gwyrdd yn gompost di-fawn yn gwrthbwyso allyriadau carbon trwy gloi carbon a dynnwyd o’r atmosffer gan blanhigion yn y pridd.  Mae dewis compost di-fawn yn helpu i gynnal mewndiroedd gwerthfawr, sy’n bwysig ar gyfer natur a’r amgylchedd.    

Dywedodd un o Lysgenhadon yr Amgylchedd, Lauren Morse, sy’n berchen ar Zero Waste Torfaen, yng Nghwmbrân: "Mae hon yn fenter wych i Dorfaen. Nid pawb sy’n gallu compostio yn eu gerddi, felly mae gwybod bod y gwastraff sy’n cael ei gasglu o ymyl y ffordd yn mynd rhyw ychydig filltiroedd i lawr y ffordd i’w droi’n gompost,  sy’n gallu cael ei roi i drigolion lleol am ddim, yn wych."

Mae sgip 15 llath o gompost ar gael i’w gasglu o Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd – wrth ymyl man gollwng oergelloedd a rhewgelloedd.  

Gofynnir i drigolion ddod â’u sachau neu gynwysyddion eu hunain a rhaw, ac i gyfyngu ar faint o gompost y maen nhw’n ei ddefnyddio i ryw ddau sach.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Roeddem ni’n arfer rhoi compost a gynhyrchwyd o wastraff gwyrdd i ysgolion a grwpiau cymunedol, ond dyma’r troi cyntaf i ni ei gynnig i’r cyhoedd.  

"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o bobl i ailgylchu gwastraff gerddi a phlanhigion yn hytrach na’i roi yn eu biniau clawr porffor oherwydd nid yn unig y mae’n helpu i gloi allyriadau, mae hefyd yn lleihau’r defnydd o fawn sydd hefyd yn hanfodol ar gyfer gwrthbwyso carbon a lleihau llifogydd."  

Bydd faint o gompost sydd ar gael a’i leoliad yn cael ei adolygu fel rhan o’r arbrawf. 

Gall trigolion roi ei gwastraff gardd, gwair, dail, tociadau perthi a brigau bach, planhigion marw a blodau yn eu biniau gwyrdd sy’n cael eu casglu pob pythefnos. 

Bydd cynyddu faint o wastraff gwyrdd sy’n cael ei ailgylchu’n arwain at gynnydd mewn cyfraddau ailgylchu yn y fwrdeistref yn unol â tharged Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70 y cant o wastraff erbyn 2050.  

Dysgwch sut allwch chi helpu i Godi’r Gyfradd. 

Diwygiwyd Diwethaf: 04/09/2023 Nôl i’r Brig