Cymru! Paratowch i harneisio pŵer gwastraff bwyd a'n cael i rif 1

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 25 Hydref 2023

 

Cymru, rydyn ni’n taclo ailgylchu’n wych, ac yn ymfalchïo cymaint mewn chwarae ein rhan nes ein bod ni’n drydedd genedl orau’r byd am ailgylchu. Ond fe allwn ni bob amser wneud yn well, gallwn?  

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod y dylai gwastraff bwyd fynd i’w gadi pwrpasol, ond er hynny, bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog o hyd. Mae hyn yn cyfrif am 110,000 tunnell y flwyddyn, sy’n swm enfawr, ac yn ddigon i lenwi 3,300 o fysiau deulawr! Yn anhygoel, gellid bod wedi bwyta mwy nag 80% ohono (a’r 20% arall yn rhannau anfwytadwy fel plisg wyau a chrwyn banana). 

Felly, gallwch weld pam rydyn ni’n cefnogi ymgyrch ‘Bydd Wych. Ailgylcha.’ Cymru yn Ailgylchu ar gyfer Wythnos Ailgylchu eleni i roi’r gorau i fwydo ein biniau sbwriel, arbed arian, a chreu ynni glanach a gwyrddach yn hytrach.  

Pris go iawn gwastraff bwyd  
Mae 75% o bobl yn poeni am brisiau cynyddol bwyd, sydd wedi codi ar lefel digynsail. Allwn ni ddim fforddio dal i daflu ein harian prin i’r bin. 

Rydyn ni oll wedi gwneud camgymeriad ar hap a damwain ar ryw adeg – fel anghofio’r darn olaf o frocoli yng nghefn yr oergell, ond mae’r adnoddau gwerthfawr sy’n cael eu defnyddio i gynhyrchu ein bwyd, o’r fferm i’r ffatri ac i silffoedd yr archfarchnad, hefyd yn cael eu gwastraffu. Rydyn ni’n llythrennol yn taflu ein harian i’r bin.   
 
Dewch inni droi gwastraff bwyd yn ynni  
Ailgylchu ein gwastraff bwyd anfwytadwy yw’r peth symlaf y gallwn ni oll ei wneud i helpu i daclo newid hinsawdd. Pam? Am ei fod yn cael ei drawsnewid yn ynni adnewyddadwy! 

Mae bron i bob awdurdod lleol yng Nghymru’n ailgylchu gwastraff bwyd i greu ynni glanach, gwyrddach i bweru ein cartrefi. Yn 2022, fe wnaethom ailgylchu digon i bweru mwy na 10,000 o gartrefi, a gallai dim ond un llond cadi o wastraff bwyd greu digon o ynni i bweru aelwyd am 1 awr. Ond fe allwn ni bob amser wneud yn well.  

Dilynwch y tips hyn gan Cymru yn Ailgylchu a Bydd Wych gyda gwastraff bwyd drwy ei gadw allan o’r bin sbwriel.  

1. Cynllunio ymlaen llaw a bwyta popeth bwytadwy 
Gall addasu ein harferion ein helpu i arbed llawer o arian, a’n hamser gwerthfawr hefyd! Ewch i edrych yn eich cypyrddau ac oergell cyn llunio rhestr siopa, a chynllunio i brynu’r symiau iawn o’r hyn y mae ei angen arnoch (yn hytrach na phrynu mwy nag y gallwch ei ddefnyddio cyn iddo ddifetha). Ceisiwch gadw golwg ar yr hyn sydd gennych, gan ddefnyddio unrhyw fwyd sy’n nesáu at ddiwedd ei oes. Mae digon o rysetiau syml sy’n eich galluogi i fod yn hyblyg gyda chynhwysion. Pethau fel ffritatas, cawl, cyri, crempog, a hyd yn oed ffriterau!  

2. Os na allwch ei fwyta. Ailgylchwch ef. 
Yr anfwytadwy, y darnau hynny nad ydyn ni’n dueddol o’u bwyta, hynny yw bagiau te, crwyn bananas, esgyrn a phlisg wyau. Mae hyd yn oed bwyd wedi llwydo – dim ots pa mor afiach – yn mynd i’r cadi gwastraff bwyd i’w ailgylchu. Cofiwch, mae gwastraff bwyd yn golygu ynni. Gallai ailgylchu croen un bwmpen bweru teledu yn ddigon hir i wylio ffefrynnau Calan Gaeaf fel Hocus Pocus a’r Addams Family un ar ôl y llall. 

3. Osgoi’r ‘ych a fi’  
Gwyddom fod y posibiliad o arogleuon, gollyngiadau ac arllwysiadau sy’n gysylltiedig â’r cadi yn gallu bod yn rhwystr. Fodd bynnag, mae ailgylchu ein gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon ac mae’n lanach na’i roi yn y bin. Y tric yw cadw eich cadi’n lân a ffres drwy ei wagio’n rheolaidd, defnyddio bag leinio, ac osgoi hylifau. Bydd Wych – mae’n hawdd! 

4. Os nad ydych chi’n gwneud eisoes, ymunwch â’r 80% ohonom sy’n defnyddio gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol.  
Cymru yw un o’r unig wledydd yn y byd lle mae gan bob aelwyd fynediad at gasgliad gwastraff bwyd wythnosol. Mae bron i 80% ohonom yn ei ddefnyddio. Dewch inni gael y ffigur hwnnw i 100%. Ewch draw i wefan eich cyngor i archebu cadi.  

Gallwch ddarganfod mwy o tips, dysgu sut mae eich gwastraff bwyd yn creu pŵer a sut i ddechrau arni ar wefan Cymru yn Ailgylchu neu ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha neu #BeMightyRecycle 

Darganfyddwch fwy am sut i ailgylchu yn Nhorfaen 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2023 Nôl i’r Brig