Cynigion ar gyfer Cyllideb 2024/25

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 9 Tachwedd 2023
budget-24-25_original

Yr wythnos nesaf, fe fydd cynghorwyr Torfaen yn ystyried cyllideb ddrafft y Cyngor ar gyfer 2024/25 a bydd gofyn iddynt gynnig awgrymiadau ar gyfer arbedion pellach posibl neu feysydd i’w hadolygu, er mwyn pontio diffyg o £2.8milwn mewn cyllid.

Meddai Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Adnoddau, y Cynghorydd Sue Morgan: “Fe fydd pobl wedi gweld y sylw yn y cyfryngau i’r pwysau ariannol y mae llawer o gynghorau yn ei wynebu. Mae’n galonogol fod yr adroddiad hwn yn rhagweld sefyllfa resymol i Dorfaen o ran y gyllideb yn 2024/25 ar y cam cynnar hwn. Rwy’n ddiolchgar am y gwaith cynllunio ariannol cadarn ar draws y Cyngor a ddylai dawelu meddwl pob un ynghylch sefydlogrwydd ariannol y Cyngor.

“Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod eto beth fydd ein cyllid ar gyfer 2024/25 ac rydym yn pryderu nad yw’r cyllid yn debygol o wneud iawn am effaith barhaus chwyddiant a’r galw cynyddol ar wasanaethau.

“Eleni, mae ein rhaglen effeithlonrwydd corfforaethol wedi nodi tua £5.2m o arbedion yn fewnol hyd yn hyn. Rydym wedi cyflawni hyn trwy leihad wedi’i reoli yn y gweithlu, lleihau costau ynni ein hadeiladau a sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn ein gwasanaethau. Mae’r arbedion hyn eisoes wedi cael eu hadeiladu i mewn i gyllideb y flwyddyn nesaf fel cymorth i bontio’r bwlch yn y cyllid.”

Meddai Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: “Wrth i ni aros am fanylion datganiad yr Hydref gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a setliad dilynol Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, rydym yn cyflwyno sefyllfa gadarn i’r cynghorwyr o ran y gyllideb.

“Ar sail y cyllid a ragdybir ar gyfer 2024/25 mae’r adroddiad hwn yn amlygu rhagamcan y bydd bwlch o £2.8m yn y cyllid o hyd, a bydd gofyn cwrdd â’r diffyg hwn trwy arbedion pellach neu drwy gynyddu refeniw.

“Serch hynny, rydyn ni’n awyddus i gadw lefelau’r dreth gyngor mor isel â phosibl i drigolion. Yn y 2 flynedd ddiwethaf, rydym wedi sicrhau dau o’r codiadau isaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer y dreth gyngor, gyda chynnydd o 1.95%. Eleni, fel cymorth i gadw gwasanaethau rydym wedi adeiladu’r gyllideb gychwynnol hon ar sail cynnydd o 4.95% yn y dreth gyngor, ac mae’n debygol y bydd yn dal i fod yn is na’r cyfartaledd. Am y tro, mae’r ffigwr hwn yn ein galluogi i gyflawni blaenoriaethau ein Cynllun Sirol trwy ddiogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel ysgolion a gwasanaethau i deuluoedd ac osgoi’r niwed y byddai cau gwasanaethau yn ei achosi.”

I ddarllen yr adroddiad a chael rhagor o wybodaeth, ewch i Porwch gyfarfodydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Trawsbynciol Adnoddau a Busnes | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 09/11/2023 Nôl i’r Brig