Erlyn masnachwr am werthu fêps anghyfreithlon

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 8 Tachwedd 2023

Mae dyn 42-oed wedi pledio’n euog i fod â fêps untro anghyfreithlon yn ei feddiant, a’u gwerthu.

Adeg y drosedd, Jay Khandhar oedd unig gyfarwyddwr Smokers N Vapers Ltd. o 34, The Mall yng Nghanolfan Siopa Cwmbrân, a chyfaddefodd i 10 cyhuddiad o werthu fêps untro anghyfreithlon yn Llys Ynadon Casnewydd ar 1 Tachwedd, 2023.

Cyn hyn roedd tîm Safonau Masnach Cyngor Torfaen wedi rhoi help a chyngor o ran y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwerthu’r cynnyrch hyn, ond pan aeth swyddogion i’r siop ym mis Mehefin 2022, daethant o hyd i bron i 250 o fêps yn cael eu harddangos nad oedd yn cydymffurfio â’r gyfraith. Profwyd rhai o’r fêps hyn a chanfuwyd bod lefelau gormodol o nicotin ynddynt.

Yn y llys, ystyriwyd ple euog cynnar Khandhar. Cafodd 12 mis o orchymyn cymunedol a gofyniad i wneud 100 awr o waith di-dâl a thalu gordal dioddefwyr o £114. Rhoddwyd dirwy o £2000 i Smokers N Vapers Ltd a gordal cymorth i ddioddefwyr o £800, ynghyd â gorchymyn i dalu’r costau i gyd, sef £951.96. Cyfanswm y ddirwy oedd £3865.96. Cafwyd gorchymyn gan y llys i ddinistrio’r fêps anghyfreithlon hefyd.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol Torfaen dros Yr Amgylchedd: "Mae ein tîm Safonau Masnach yn gweithio’n eithriadol o galed i fynd i’r afael â’r broblem o gyflenwi fêps untro anghyfreithlon. Mae swyddogion yn gwneud gwiriadau er mwyn sicrhau mai dim ond cynnyrch cyfreithlon sydd wedi cael eu cyflwyno i’r MHRA (Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd) ac sydd wedi bod trwy’r broses hysbysu, sy’n cael eu gwerthu i gwsmeriaid.

“Er bod fêpio yn cael ei weld fel arfer sy’n fwy diogel na smygu cynnyrch tybaco traddodiadol, mae yna risgiau ynghlwm wrth anadlu nicotin trwy ddyfais o hyd, a dyna pam mae yna ddeddfwriaeth yn ei lle i reoleiddio’r cynnyrch sy’n cael eu rhoi ar y farchnad.”

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu fêps yn anghyfreithlon gysylltu â thîm Safonau Masnach Torfaen drwy ffonio 01633 647623 neu anfon neges e-bost i trading.standards@torfaen.gov.uk

Ceir rhagor o wybodaeth am Safonau Masnach ar https://www.torfaen.gov.uk/cy/Business/TradingStandards/Trading-Standards.aspx

Diwygiwyd Diwethaf: 08/11/2023 Nôl i’r Brig