Cynlluniau Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl a'r Ardal Gaffi yn cymryd cam ymlaen

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Mehefin 2023

Disgwylir i'r gwaith rhagarweiniol fynd rhagddo'r wythnos nesaf cyn cyflwyno 3 phrosiect yng Nghanol Tref Pont-y-pŵl. 

Bydd y cynllun yn cynnwys caffi newydd wrth ymyl y parc, ynghyd â thoiledau, trwy ailddatblygu toiledau Hanbury Road, gwella’r cyfleusterau parcio ym Maes Parcio Glantorvaen Road a hwb diwylliannol newydd yn Eglwys St James.

Bydd ymchwiliad gwaith daear, yn cynnwys drilio, yn digwydd y tu allan i'r maes parcio o ddydd Mercher 21 Mehefin tan ddydd Gwener 23 Mehefin. Noder, yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd mynediad dros dro i faes parcio isaf y Ganolfan Ddinesig. Bydd rhaid defnyddio meysydd parcio eraill.

Yn ogystal, ar ddydd Sul 25 Mehefin, bydd gwaith yn mynd rhagddo ar safle toiledau Hanbury Road. Bydd y cyfleusterau ar gau dros dro am y dydd ond bydd toiledau eraill ar gael ym:

  • Mharc Pont-y-pŵl, sydd ar agor rhwng 7.30am a 5pm. Nid oes toiledau hygyrch yn y cyfleusterau hyn. Mae toiledau hygyrch a chyfleusterau i newid cewynnau yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl sydd gerllaw
  • Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl rhwng 7am a 8.30pm. Mae toiledau i ddynion, menywod, man i newid cewynnau a thoiledau hygyrch ar gael.

Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ar y caffi newydd a Maes Parcio Glantorvaen Road ym mis Ionawr 2024.

Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, bydd dau doiled newydd, gwbl hygyrch ar Hanbury Road, yn ogystal â thoiledau yn y caffi i ymwelwyr.  Bydd toiledau newydd hefyd ym Maes Parcio Glantorvaen Road, yn ogystal â mannau parcio i bobl anabl a mannau gwefru cerbydau trydan.

Roedd prosiect Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl gwerth £9.3 miliwn yn un o 11 o brosiectau yn unig yng Nghymru i dderbyn cyllid gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth Cymru, sy’n anelu i greu swyddi a thyfu’r economi lleol. 

Dysgwch mwy am yr hyn fydd gan Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl i’w gynnig, a

Dysgu mwy am ble i barcio ym Mhont-y-pŵl

Diwygiwyd Diwethaf: 26/06/2023 Nôl i’r Brig