Wyth Baner Werdd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Gorffennaf 2023

Mae wyth man gwyrdd yn Nhorfaen wedi cael statws Baner Werdd am flwyddyn arall.  

Mae Llyn Cychod Cwmbrân, Parc Pont-y-pŵl a Llynnoedd y Garn wedi cael eu cydnabod gan Gadwch Gymru’n Daclus am eu cyfleusterau ardderchog i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac ymrwymiad i gyflenwi man gwyrdd o ansawdd gwych.   

Mae pum safle cymunedol yn y fwrdeistref, Coedwig Gymunedol Blaen Brân, Parc Llyn Pysgod Panteg, Gardd Gymunedol Clwb Rygbi Forgeside, Gwarchodfa Natur Leol Henllys a Gardd â Mur Maenor Llanfrechfa hefyd wedi cael eu cydnabod â statws Baner Werdd.   

Mae’r gwobrau Baner Werdd yn gynllun ar draws y DU sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda.   

Cyflenwir rhaglen y Faner Werdd yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus,  gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.   

Rhoddodd arbenigwyr annibynnol mewn mannau gwyrdd eu hamser i farnu safleoedd yn ôl wyth o feini prawf penodol, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chyfraniad cymunedol.   

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydw i wrth fy modd bod ein tri safle wedi cadw eu statws Baner Werdd.   

“Mae’r gwobrau yma’n cydnabod gwaith caled ein swyddogion a’u hymrwymiad wrth reoli ein mannau gwyrdd er lles trigolion, ymwelwyr a natur.”  

Dywedodd Cyfeillion Parc Llyn Pysgod Panteg: “Rydym yn falch iawn gyda’n llwyddiant wrth gael Gwobr Baner Werdd eto eleni.   

“Hoffem ddiolch i’n gwirfoddolwyr am eu hymdrechion wrth gynnal safonau uchel y parc.  Hoffem ddiolch hefyd i aelodau a swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen am eu cefnogaeth barhaus i’r hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni yn y parc.”  

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Cynllun Baner Werdd ar ran Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae mynediad am ddim i fannau gwyrdd diogel o ansawdd uchel yn bwysicach nag erioed.  Mae ein safleoedd arobryn yn chwarae rôl bwysig yn lles meddyliol a chorfforol pobl, gan gynnig hafan i gymunedau ddod at ei gilydd, ymlacio a mwynhau natur. 

“Mae’r newyddion bod 280 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi cael Gwobr Baner Werdd yn dyst i waith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.  Rydym wrth ein bodd o fedru dathlu ei llwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol.”   

Mae rhestr lawn o enillwyr ar wefan  Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru   

  

  

Diwygiwyd Diwethaf: 21/07/2023 Nôl i’r Brig