Cynllun Cyflenwi'r Cynllun Sirol yn taro targedau

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Gorffennaf 2023

Mae mwyafrif y targedau a osodwyd ym mlwyddyn gyntaf Cynllun Sirol Cyngor Torfaen wedi eu cyrraedd. 

Mae Torfaen y Dyfodol, Cynllun Sirol yn strategaeth pum mlynedd sy’n amlinellu amcanion tymor hir y cyngor, ochr yn ochr â chynlluniau cyflenwi blynyddol sy’n cyflwyno’r camau a gaiff eu cymryd ym mhob blwyddyn ariannol i’w cyflawni. 

Dangosodd adroddiad a gyflwynwyd i’r cyngor yr wythnos yma fod bron i dri chwarter y targedau yn y cynllun cyflenwi ar gyfer 2022 i 2023 naill ai ar fin cael eu cyflawni neu wedi cael eu cyflawni.

Mae’r rhain yn cynnwys datblygiad maes 3G newydd yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, ym Mhont-y-pŵl, dau gynllun Teithio Llesol ar hyd Cwmbran Drive, gwasanaeth cefnogaeth newydd i fusnesau a chamau yn erbyn pobl sy’n tipio sbwriel yn anghyfreithlon.

Gosodwyd bron i chwarter y camau yn y categori oren, sy’n golygu bod oedi wedi bod, gan gynnwys ymestyn Ysgol Arbennig Crownbridge a chynyddi nifer y cychod sy’n defnyddio’r gamlas.

Nodwyd bod oedi mwy sylweddol ar bedwar y cant o’r targedau, gan gynnwys cwblhau’r tri Chynllun Lle ar gyfer buddsoddiad, a gwaith ar adeilad newydd yn Ysgol Gynradd Maendy yng Nghwmbrân.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Jones, yr Aelod Gweithredol dros Lywodraeth Gorfforaethol a Pherfformiad: "Ein huchelgais yw bod yn gyngor rhagorol.  Rydym yn cyrraedd y rhan fwyaf o’n targedau ond rydym ni’n cydnabod bod modd o hyd i wneud yn well gyda rhai pethau.

"Rwy’n falch o’r hyn mae’r cyngor yma wedi cyflawni ac mae’r clod am hyn i’n staff anhygoel.  Rwy’n gobeithio eu bod yn falch o’r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni." 

Mae yna bedair thema i’r Cynllun Sirol – lles, cynaliadwyedd, cysylltedd a diwylliant a threftadaeth – a naw amcan lles. 

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynhyrchu cynlluniau cyflenwi ar gyfer pob blwyddyn o’r cynllun, a bydd y rhain yn cael eu monitro pob chwarter er mwyn olrhain a monitro cynnydd.  

 Dysgwch fwy am gynnydd diwedd y flwyddyn y cynllun cyflenwi ar gyfer 2022 tan 2023

Mae’r cynllun cyflenwi ar gyfer 2023 i 2024 hefyd ar ein gwefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/07/2023 Nôl i’r Brig