Tîm newydd i daclo allyriadau carbon

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6 Gorffennaf 2023
Gary Meale and Kate Brayford

Mae tîm newydd wedi ei benodi gan Gyngor Torfaen i helpu i leihau allyriadau carbon sy’n cyfrannu’n helaeth i newid yn yr hinsawdd. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi targed i awdurdodau lleol o fod yn sero carbon net erbyn 2030, gyda phob cymuned i fod yn sero carbon net erbyn 2050.

Ystyr sero carbon net yw pan fo cydbwysedd rhwng y carbon sy’n cael ei ollwng i’r atmosffer a’r carbon sy’n cael ei dynnu ohono. Gellir gwneud hyn trwy leihau allyriadau a chynyddu dal carbon trwy brosesau diwydiannol a gwarchod ecosystemau fel coedwigoedd, dolydd blodau gwyllt a gweunydd mawn.

Mae’r cyngor ar ben ffordd gyda lleihau a gwrthbwyso ei allyriadau carbon ei hun trwy gyflwyno cerbydau trydan newydd, gosod ffynonellau ynni adnewyddol a gwneud adeiladau, gan gynnwys ysgolion, yn fwy effeithlon o ran ynni.

Mae dau swyddog newydd wedi eu penodi nawr i helpu trigolion, cymunedau a busnesau i gyrraedd y targed sero net erbyn 2050. Mae’r swyddi yma wedi derbyn arian o Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU am gyfnod o ddwy flynedd. 

Gary Meale yw Swyddog Datgarboneiddio Cymunedol newydd Cyngor Torfaen, a bydd yn cefnogi sefydliadau cymunedol i asesu eu hôl-troed carbon, sicrhau arian ar gyfer dewisiadau amgen ynni sero carbon a gwella bioamrywiaeth leol.

Bydd hefyd yn cefnogi Rhwydwaith Llysgenhadon Hinsawdd Cyngor Torfaen i weld problemau lleol a chael hyd i atebion.

Kate Brayford yw Swyddog Datgarboneiddio Busnes newydd y Cyngor a hi fydd pwynt cyswllt unrhyw fusnes sy’n chwilio am gyllid neu gefnogaeth arall i leihau a gwrthbwyso allyriadau.

Dywedodd Gary: "Mae’r rôl yma’n ymwneud â chael pobl i ddechrau meddwl am darged 2050 a dechrau gwneud newidiadau nawr. Byddaf yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol ond mae fy swydd yn cynnwys helpu trigolion bregus i gael ynni effeithlon a chost-effeithiol." 

Dywedodd Kate: "Rwy’ wedi fy nghyffroi’n fawr ar gyfer y rôl yma sy’n golygu cefnogi busnesau yn Nhorfaen i leihau eu hallyriadau carbon a gweithio tuag at ein targed sero net ar gyfer 2050."

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’n Wythnos Sero Net sy’n gyfle da i amlygu gwaith y cyngor i leihau a gwrthbwyso allyriadau carbon.

"Mae 2050 i weld yn bell i ffwrdd ond mae’n bwysig ein bod ni’n dechrau meddwl am y newidiadau ffisegol ac ymddygiadol mae’n rhaid i ni i gyd eu gwneud i fod yn sero carbon net a lleihau’r niwed sy’n cael ei wneud i’r amgylchedd." 

Mae Cynllun Ynni Lleol yn cael ei greu i drawsnewid sut mae ynni’n cael ei ddefnyddio a’i gynhyrchu yn y fwrdeistref i ddatblygu system ynni sero carbon.  

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn canfod ffyrdd o fod yn sero carbon net, gallwch gysylltu â Rhwydwaith Llysgenhadon Hinsawdd Cyngor Torfaen neu gysylltu â grŵp  Climate Action Torfaen trwy Facebook.

Gall lleihau nifer y teithiau byr gyda char o gwmpas y fwrdeistref hefyd helpu i dorri allyriadau carbon. Ewch i weld ble mae eich llwybrau cerdded a seiclo yn adran teithio llesol ein gwefan

Gallwch ddanfon e-bost at Gary trwy gary.meale@torfaen.gov.uk neu ffonio 01633 648030. Gallwch gysylltu â Kate Blayford trwy gyfeiriad e-bost Cyswllt Busnes Torfaen  businessdirect@torfaen.gov.uk neu drwy ffonio 01633 648735.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/07/2023 Nôl i’r Brig