Ewch yn wyrdd ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Cancr yr Aren

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3 Chwefror 2023
Kidney Cancer Awareness

Bydd Canolfan Ddinesig Pont-y-pŵl yn cael ei goleuo’n wyrdd o ddydd Llun ymlaen ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Cancr yr Aren.

Mae cancr yr aren yn un o’r achosion mwyaf cyffredin o farwolaeth o gancr yn y DU, gyda thua 4,600 o farwolaethau’r flwyddyn, sef 13 y diwrnod.

Gan fynd o 6ed i’r 10fed o Chwefror, mae’r wythnos ymwybyddiaeth yn ceisio taflu goleuni ar y salwch ac annog cleifion, teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau i ddechrau sgwrs amdano.

Mae canlyniadau arolwg 2022 Kidney Cancer UK yn dangos bod symptomau mwyaf cyffredin cancr yr aren yn cynnwys poen tymor hir yn y cefn neu’r ochr, gwaed yn y dŵr a blinder, a’r 4ydd mwyaf cyffredin yn yr arolwg oedd dim symptom. 

Gall trigolion hefyd ymuno â’r sgwrs ar-lein trwy chwilio am yr hashnod #KCAW2023 yn y cyfryngau cymdeithasol.

Gall trigolion ymuno am ddim hefyd am weminar am ddim ynglŷn â phwysigrwydd treialon clinigol a sut i’w cael, a fydd yn digwydd ar 6 Chwefror am 10:30am. Cliciwch yma i gofrestru.

Am fwy o wybodaeth am ymgyrch Ymwybyddiaeth Cancr yr Aren, ewch i https://www.kcuk.org.uk/

Diwygiwyd Diwethaf: 03/02/2023 Nôl i’r Brig