Enwebiadau'n agor ar gyfer Gwobrau Cymunedol a Gwirfoddolwyr

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6 Gorffennaf 2023
volunteer awards

Ydych chi’n gwybod am wirfoddolwr, grŵp cymunedol neu fusnes sy’n mynd yr ail filltir dros eu cymuned?

Os felly, beth am eu henwebu ar gyfer Gwobrau Cymunedol a Gwirfoddolwyr Torfaen eleni.

Bwriad y seremoni wobrwyo yw dathlu arwyr anhysbys mewn nifer o feysydd gwahanol, gan gynnwys yr amgylchedd a chynaliadwyedd, iechyd a busnes a gwobr calon y gymuned – sy’n dathlu llwyddiannau grŵp cymunedol.

I enwebu unigolyn, busnes, sefydliad neu grŵp, ewch y wefan TVA Cymru - https://tvawales.org.uk/volunteer-awards/

Bydd enwebiadau’n cau am hanner nos ar 30 Gorffennaf 2023. Cynhelir y seremoni wobrwyo fis Hydref yng Ngwesty’r Parkway yng Nghwmbrân.

Dywedodd Aimi Morris, Swyddog Gweithredol yng Nghynghrair Gwirfoddol Torfaen: “Mae’r gwobrau yma’n gyfle i ni amlygu effaith enfawr gwirfoddolwyr ledled Torfaen. Mae gwirfoddolwyr wedi cefnogi cymaint o bobl yn ein cymunedau, a byddai hyn wedi bod yn amhosibl pe baen ni i gyd wedi gweithio ar ein pennau ein hunain. Rydym yn falch, yn ddiolchgar, ac mewn dyled i’r rheiny a ddaeth i’r adwy.

“Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymuno â ni wrth ddiolch i bawb trwy ddefnyddio’r hashnod #TorfaenYnDiolch. Os ydych chi wedi bod yn wirfoddolwr neu wedi elwa o wirfoddoli, enwebwch a rhannwch yn newyddion gyda ni yn y cyfryngau cymdeithasol!”

Datblygwyd Gwobrau Cymunedol a Gwirfoddolwyr Torfaen gan Gynghrair Gwirfoddol Torfaen, BIP Aneurin Bevan a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ac maen nhw wedi tyfu ers hynny i gynnwys cymdeithasau tai a busnesau lleol. 

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn rhoi ychydig o oriau i wirfoddoli, gallwch gael hyd i nifer o gyfleoedd ar wefan Cysylltu Torfaen
Diwygiwyd Diwethaf: 06/07/2023 Nôl i’r Brig