Tynnu cannoedd o deiars o fan prydferth

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Rhagfyr 2023
Tyres montage

Mae'r lluniau brawychus hyn yn dangos cannoedd o deiars ceir a ganfuwyd wedi'u gadael ger hen bwll glo Blaenserchan.  

Cawsant eu darganfod yr wythnos diwethaf gan Jon Howells, Warden Cefn Gwlad Cyngor Torfaen, sydd, wedi gwaredu ar y mwyafrif helaeth ohonynt ers hynny. 

Credir bod y teiars wedi cael eu taflu o ffordd sy’n rhedeg uwchben y ddyfnant sydd o’r neilltu, a hynny ers blynyddoedd, ond na sylwyd arnynt am fod gwaelod y dyffryn bron yn anhygyrch.

Bu'n rhaid i Jon a dau gontractwr gario'r teiars dros domenni sorod a’u taflu i mewn i gerbyd 4x4 bach, lle cawsant eu cludo i hen ffordd y pwll gerllaw, i’w casglu gan dîm gwastraff ac ailgylchu'r cyngor.

Meddai Jon: " Mae cynlluniau ar y gweill i droi'r ardal yn warchodfa natur leol, felly rydym yn gweithio i dynnu unrhyw beth o'r ardal a allai fod yn anniogel i'r cyhoedd.

"Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n cerdded ar hyd y nant tuag at Pantygasseg pan wnes i ddod ar draws tua 500 o deiars a oedd wedi cael eu rholio i mewn i’r nant. Roedd rhai yn fodern ond eraill yn dod o'r hen Undeb Sofietaidd a dwyrain yr Almaen. Fe wnaethom ddod o hyd i un o 1935.

"Cymerodd dri diwrnod i'w tynnu nhw i gyd â llaw a oedd yn waith brwnt iawn. Roedd tua thri na allem gael hyd iddynt am eu bod yn anhygyrch neu am fod coed wedi tyfu trwyddynt."  

Ychwanegodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd, " Mae'r lluniau hyn yn dangos cymaint y mae tipio anghyfreithlon yn difwyno ein hamgylchedd, a byddwn yn erlid ac erlyn unrhyw un sy'n cael eu dal yn tipio’n anghyfreithlon.

"Rydym wedi cynyddu gwyliadwriaeth mewn nifer o fannau tipio anghyfreithlon ac rydym yn gweithio gyda chymunedau i geisio atal pobl rhag gadael sbwriel yn anghyfreithlon.  

"Diolch i ymroddiad Jon a'i waith diflino, nid yw'r teiars hyn bellach yn gollwng cemegau i mewn i’r cwrs dŵr a'r pridd. Rydym yn apelio i drigolion riportio unrhyw un y maen nhw’n eu gweld yn taflu teiars neu unrhyw sbwriel arall yn y ddyfnant hon, neu unrhyw le arall yn y fwrdeistref."

Dysgwch sut i fynd ati i riportio tipio anghyfreithlon

Cafodd Jon gymorth gan y Bartneriaeth Natur Leol, a ariannodd gostau dau gontractwr i helpu i gael gwared ar y teiars.

Y gobaith yw, yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf, y bydd yr ardal yn cael ei dynodi'n wythfed Warchodfa Natur Leol, a’r fwyaf yn Nhorfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/12/2023 Nôl i’r Brig