Neges i rieni gan Wasanaeth Addysg Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 5 Ionawr 2022

Annwyl rieni a gofalwyr

Blwyddyn Newydd dda – gobeithio eich bod chi a’ch teulu yn iach ac wedi cael Nadolig braf.

Dros gyfnod y Nadolig, bu nifer o benderfyniadau gan Lywodraeth Cymru a fydd yn effeithio holl ysgolion Cymru a bydd pennaeth eich plentyn yn cysylltu i esbonio sut byddant yn eich effeithio chi.

Bydd rhai newidiadau yn effeithio pob disgybl, ac roeddwn yn meddwl y byddai’n fuddiol nodi’r rhain cyn dychwelyd i’r ysgol.

Profion

Bydd llawer mwy o ddefnydd o brofion llif unffordd (LFT) y tymor hwn. Gofynnir nawr i ddisgyblion oedran uwchradd a holl staff ysgol brofi bob dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. Os cânt ganlyniad positif LFT bydd angen iddynt drefnu prawf PCR a hunan-ynysu.

Os adnabyddir eich plentyn fel cyswllt agos achos positif, bydd angen iddyn nhw wneud LFT bob dydd am 7 diwrnod. Os yw canlyniad y prawf dyddiol yn negyddol, dylent barhau i fynychu’r ysgol.

Os ydych yn riant i ddisgybl oedran cynradd, gallwch gael profion LFT arlein drwy fynd i https://gov.wales neu gan fferyllfeydd lleol sy’n cymryd rhan yn y cynllun, rhestr o’r rhain sydd i’w weld ar y ddolen. Os na fedrwch wneud hyn, mae gan ysgolion cynradd gyflenwad bach iawn ar gael ar gyfer profion brys.

Prinder Staff

Mae effaith Omicron wedi golygu bod niferoedd cynyddol o staff mewn busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru sydd angen hunan-ynysu ar ôl dal y feirws. Dros gyfnod y Nadolig, mae hyn wedi bod yn effeithio’r Gwasanaethau Iechyd a llawer o rannau o’r economi. Cyn y Nadolig, roeddem yn gallu cadw bron bob un o’n hysgolion ar agor i holl ddysgwyr yn gyson, ond rhaid i ni nawr wynebu’r posibilrwydd y bydd angen i rai dosbarthiadau neu grwpiau blwyddyn gau dros yr wythnosau i ddod.

Mae penaethiaid yn asesu’r sefyllfa yn eu hysgolion eu hunain, ond fel y gallwch ddychmygu, mae’r sefyllfa ar achosion positif yn newid o ddydd i ddydd. Mae ein staff ysgol wedi bod yn treulio’r ddau ddiwrnod cyntaf yn ôl yn yr ysgol yn cynllunio sut gallent gadw dysgu wyneb yn wyneb yn yr ysgol lle bynnag y bo modd. Mae’r cyngor a’r penaethiaid hefyd yn awyddus i gadw clybiau brecwast a gweithgareddau ar ôl ysgol ar agor hefyd.

Un her sy’n wynebu penaethiaid yw’r amser sydd ganddynt i gymryd penderfyniadau ar ôl canlyniad positif gan aelodau staff. Gall hyn arwain atoch yn derbyn rhybudd byr iawn na all eich plentyn fynychu’r ysgol ar y diwrnod hwnnw. Rydym yn gwerthfawrogi y gall hyn fod yn anodd iawn a gofynnwn i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn y cyfnod anodd iawn tra bo’r feirws yn ymledu’n eang.

Mae ysgolion yn ystyried newid amserau cychwyn a gorffen ysgol i ganiatáu mwy o amser yn y bore i gysylltu gyda rhieni os oes angen i ddisgyblion aros gartref. Bydd eich ysgol yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd os oes angen iddynt newid rhywbeth felly bydd yn hollbwysig cadw llygad allan am negeseuon gan yr ysgol.

Prydau Ysgol am Ddim

Y bwriad yw y bydd y gwasanaeth arlwyo mewn ysgolion yn parhau i weithredu fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mae systemau ar waith i sicrhau bod disgyblion na all fynychu’r ysgol gan fod ganddynt Covid yn derbyn taliad uniongyrchol yn unol â’r trefniadau blaenorol. Er mai ein nod yw cynnal gwasanaethau arlwyo yn yr ysgolion, mae’n bosibl y byddwn hefyd yn gweld prinder staff yn y timau hyn ac os bydd hyn yn digwydd, ein nod unwaith eto yw rhoi rhybudd a gwneud taliadau uniongyrchol i’r teuluoedd a effeithir.

Profi ac Olrhain

Dylai unrhyw un gyda chanlyniad prawf positif ddilyn y rheolau hunan-ynysu a nodir yn gov.wales/self‑isolation.

Fel yr ydych yn gwybod, bu cynnydd anferth mewn achosion dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’r gwasanaeth Profi, Olrhain ac Amddiffyn (TTP) yn brysur iawn ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn derbyn neges testun a gofyn i chi gwblhau ffurflen arlein. Mae’r ffurflen arlein hon yn casglu data ynglŷn â phwy mae eich plentyn wedi ei weld a lle maent wedi bod yn ystod y cyfnod heintus. Yn anffodus, mae hon yn ffurflen safonol ac felly bydd yn gofyn cyfres o gwestiynau nad ydynt yn ffitio amgylchiadau eich plentyn yn naturiol. Ar gyfer y cwestiynau ar y ffurflen a restrir isod – buasem yn ddiolchgar iawn pe gallwch ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Ydyn nhw’n gyflogedig?  Atebwch YDYN
  • Beth yw eu statws cyflogaeth?  Dewiswch MYFYRIWR
  • Beth yw eu prif le gwaith?  Nodwch YSGOL eich plentyn.

Mae’r wybodaeth hon yn bwysig iawn gan ei bod yn helpu i hysbysu’r ysgol o achos positif yn gyflym ac yn helpu i roi cyngor i gysylltiadau a nodwyd gennych chi a’ch plentyn. Os yw’r wybodaeth hon ar goll, bydd oedi arwyddocaol o ran gallu rhoi cyngor i’r bobl gywir felly buasem yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad yn fawr.

Rydym eisiau eich sicrhau y byddwn yn gwneud ein gorau glas i leihau unrhyw darfu ar ddysgwyr a chithau drwy gydol y cyfnod hwn.

Yn gywir iawn

Dermot McChrystal

Gyda Chyfarchion y Prif Swyddog, Addysg & Cyfarwyddwr Arweiniol ar gyfer Plant a Phobi Ifanc

Diwygiwyd Diwethaf: 05/01/2022 Nôl i’r Brig